Showing 2 results

Archival description
Only top-level descriptions File Welsh poetry -- 19th century
Print preview View:

Llythyrau T. Gwynn Jones at R. S. Rowlands

  • NLW MS 24174E.
  • File
  • 1889-1892, 1909

Wyth llythyr ar hugain, 1889-1892, oddi wrth T. Gwynn Jones at ei gyfaill R[owland] S[amuel] Rowlands, Tywyn, Abergele (yn ddiweddarach yn fyfyriwr yn Holt Academy, sir Ddinbych, ac yna yn astudio milfeddygaeth yng Nghaeredin), ynghyd ag eitemau eraill amgaeëdig, yn cynnwys tua un ar hugain o gerddi, i gyd yn ôl pob golwg heb eu cyhoeddi. Yn y llythyrau mae Gwynn yn trafod barddoniaeth, gwaith a materion personol. = Twenty-eight letters, 1889-1892, from T. Gwynn Jones to his friend R[owland] S[amuel] Rowlands of Tywyn, Abergele (later a student at Holt Academy, Denbighshire, and then a student of veterinary medicine at Edinburgh), together with other enclosed items, including some twenty-one poems, all apparently unpublished. In the letters Gwynn discusses poetry, work and personal matters.
Mae'r cerddi un ai ar ddalennau ar wahân (ff. 3-4, 7-8, 10-12, 14, 26, 31-32, 38-39, 71-74) neu wedi eu cynnwys yn y llythyrau (ff. 23-25 verso, 27 verso, 29 verso, 44 verso, 46 recto-verso, 62, 63). Mae'r amgaeëdigion eraill yn cynnwys llyfryn o gartwnau yn dwyn y teitl 'Darluniau Cymdeithasol', [1889] (ff. 15-22), 'Rhestr o Destynau [sic] Eisteddfod y Beirdd Serch' (ff. 35-36), darn o ryddiaith am y cymeriadau 'Ned y Dolphin' a 'Syr Harri' (ff. 75-78) a cherdd gan R. S. Rowlands ar 'Synnwyr y Fawd', ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Abergele, Nadolig 1889 (f. 37). Mae llythyr at Rowlands oddi wrth Griff[ith] Evans, Brynkynallt, Bangor, 13 Ebrill 1909, yn ymwneud a'r N[orth] W[ales] V[eterinary] M[edical] A[ssociation] (f. 79). Mae Gwynn yn arwyddo'i lythyrau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys 'Gwynn ap Iwan', 'Gwynnvre ap Iwan', 'Thomas Gwynn ap Iwan' a 'Syr Pedr Bennwann'; ceir 'T. Gwynn-Jones' am y tro cyntaf ar 15 Ionawr 1891 (f. 44). = The poems are either on separate leaves (ff. 3-4, 7-8, 10-12, 14, 26, 31-32, 38-39, 71-74) or incorporated in individual letters (ff. 23-25 verso, 27 verso, 29 verso, 44 verso, 46 recto-verso, 62, 63). Other enclosures include a booklet of cartoons entitled 'Darluniau Cymdeithasol' ['Society Pictures'], [1889] (ff. 15-22), a satirical list of competitions for 'Eisteddfod y Beirdd Serch' (ff. 35-36), a prose fragment concerning the characters 'Ned y Dolphin' and 'Syr Harri' (ff. 75-78) and a poem by R. S. Rowlands entitled 'Synnwyr y Fawd', written for Cyfarfod Cystadleuol Abergele, Christmas 1889 (f. 37). A single letter to Rowlands from Griff[ith] Evans, Brynkynallt, Bangor, 13 April 1909, relates to the affairs of the N[orth] W[ales] V[eterinary] M[edical] A[ssociation] (f. 79). Gwynn signs his letters in a number of ways, including 'Gwynn ap Iwan', 'Gwynnvre ap Iwan', 'Thomas Gwynn ap Iwan' and 'Syr Pedr Bennwann'; 'T. Gwynn-Jones' appears for the first time on 15 January 1891 (f. 44).

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Cywydd y Drindod

  • NLW MS 24181A.
  • File
  • [1793x1827]

Copi o Dafydd Ionawr [David Richards], Cywydd y Drindod (Wrecsam: A. Hughes, 1793, ESTC T65254 / Libri Walliae 4325), gyda nodiadau a diwygiadau yn llaw'r awdur, [1793x1827]. = A copy of Dafydd Ionawr, Cywydd y Drindod (Wrexham: A. Hughes, 1793, ESTC T65254 / Libri Walliae 4325), containing manuscript notes and emendations in the hand of the author, [1793x1827].
Mae yna nifer o ddiwygiadau i gorff y gyfrol (tt. 4-203 passim, 251-382 passim; 64 tt. i gyd) ac ar y diwedd (tt. 383-385); mae llawer o'r adolygiadau yma hefyd yn ymddangos yng ngopi LlGC W.s. 1793 sydd, er hynny, yn cynnwys llawer mwy o ychwanegiadau. Mae yna hefyd fân nodiadau a llinellau o farddoniaeth, mewn pensil yn bennaf (tu mewn i’r cloriau ac ar tt. a-b, ii, vi, 386-388), a rhestr Errata mewn inc (t. a). Ni ymddengys i’r adolygiadau gael eu hymgorffori mewn unrhyw ffordd yn argraffiadau 1834 ac 1851 o’r Cywydd. = There are numerous emendations to the main body of the book (pp. 4-203 passim, 251-382 passim; 64 pp. in total) and at the end (pp. 383-385); many of these emendations also appear in NLW's W.s. 1793 copy, which however contains many more, and more substantial, additions. There are also miscellaneous notes and lines of poetry, mostly in pencil (inside the covers and on pp. a-b, ii, vi, 386-388), and a list of Errata in ink (p. a). The revisions do not appear to have been incorporated in any way into the 1834 and 1851 editions of the work.

Richards, David, 1751-1827