Showing 3 results

Archival description
File Church correspondence -- Wales -- Morriston.
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau'r pensaer

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1995-1999, oddi wrth Alwyn Jones, pensaer ac ymgynghorwr ar adeiladau hanesyddol, yn ymwneud â chostau, ac amcangyfrifon am y gwaith atgywerio; llythyr, 1999, oddi wrth Heddlu De Cymru ynglŷn â fandaliaeth ar adeiladau'r eglwys; a llythyr, 2003, oddi wrth ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, ynghyd ag adroddiad blynyddol am 2002-2003.

Ceisiadau am gymorth ariannol

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyr, 1993, oddi wrth CADW yn nodi fod yr adeilad wedi'i restru fel un o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol; llungopïau o ddeunydd ym meddiant Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn ymwneud â hanes pensaernïol Eglwys Philadelphia ac o ffynonellau printiedig eraill; torion o'r wasg, [1998]-2002, yn ymwneud ag argyfwng capeli yn gyffredinol; llungopïau o ffotograffau o'r capel; ynghyd â llythyr, 2003, oddi wrth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Cadw (Organization : Great Britain)

Gohebiaeth yr ysgrifennydd

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1956, 1964, 1987-1995, yn ymwneud â cheisiadau ariannol ar gyfer gwelliannau i adeiladau'r capel, gwerthu'r Tŷ Capel, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, CADW, Ymddiriedolaeth Catherine a'r Fonesig Grace James a Chyngor Dinas Abertawe, ynghyd â nodiadau o weithredoedd y capel, 1813-1956, a gedwir gan Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, a llungopi o drosglwyddeb, 1871, am brynu tir i godi festri.