Print preview Close

Showing 1 results

Archival description
Wales -- Genealogy Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Llyfr John Brooke o Vowddwy

Cyfrol o achau, barddoniaeth, rhestr o gantrefi, cymydau a phlwyfi Cymru, ryseitiau meddygol, ayyb, 1590-1592, yn nwylo John Brooke o Mucklewicke, plwyf Hyssington, sir Amwythig, a Mawddwy, sir Feirionnydd (tt. 1-406), a Dr John Davies o Fallwyd (tt. 407-20, 425-54, 461, 477-9, ac yn ôl bob tebyg 463-76, 481-4). = A volume of pedigrees, poetry, lists of the hundreds, commotes and parishes of Wales, medical receipts, etc., 1590-1592, in the autographs of John Brooke of Mucklewicke, parish of Hyssington, Shropshire, and Mawddwy, Merioneth (pp. 1-406), and Dr John Davies of Mallwyd (pp. 407-20, 425-54, 461, 477-9, and probably 463-76, 481-4).
Copïwyd yr achau o lyfrau Gruffudd Hiraethog, Gutyn Owain ac eraill. Ar dudalen 296 mae Brooke yn dweud iddo wneud copi cynharach a gollwyd. Ceir rhestr cynnwys i ran gyntaf y gyfrol (tt. 1-406) ar tt. [1]-[10]. = The pedigrees are copied from the books of Gruffudd Hiraethog, Gutyn Owain and others. On page 296 Brooke states that he had made a previous copy, subsequently lost. A table of contents for the first part of the volume (pp. 1-406) is on pp. [1]-[10].

Brooke, John, b. 1520.