Showing 3 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams Welsh language
Print preview View:

Torion papur

Torion papur amrywiol, 1934-1978, y mwyafrif yn cynnwys cyfeiriadau at genedlaetholdeb, addysg Gymraeg, a chrefydd a diwylliant Cymru. Ymddengys mai torion a grynhowyd gan Elizabeth Williams yw'r rhain, ac yn eu plith mae erthyglau ganddi hi a G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg. Ceir hefyd nodiadau ar ddiwylliant, crefydd ac iaith, nifer gan ac yn llaw Elizabeth Williams.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1915-1977, at Elizabeth Williams, nifer yn ymwneud â G. J. Williams a chyhoeddi ei waith; capel Bethesda'r Fro; dyfodol yr iaith Gymraeg; Undeb Cymru Fydd a Phlaid Cymru. Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Glyn Ashton, Rachel Bromwich (2), D. Simon Evans (4), Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Rachel Ellenborough (21, ynghyd â pheth o'i gwaith dan yr enw Rachel Law, a gwybodaeth yngŷn ag achau'r teulu (Iolo Morganwg)), Gwynfor Evans (2), Raymond Gower, Bedwyr Lewis Jones (2), Bobi Jones (2), D. Gwenallt Jones (3; ac 1 oddi wrth Nel Gwenallt ar farwolaeth ei gŵr), E. D. Jones (6), Ceri Lewis, Saunders Lewis (3; un oddi wrtho at ei wraig, Margaret, pan oedd yn y carchar; a 3 oddi wrth Margaret at Elizabeth Williams; ac 1 llythyr, 1931, at Saunders Lewis oddi wrth J. Alun Pugh), Timothy Lewis (2), T. J. Morgan, Rhys Nicholas, Iorwerth Peate, Eurys Rowlands, R. J. Thomas (6), a D. J. Williams (6).

Yr iaith Gymraeg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys llawysgrif ei draethawd ymchwil, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'; darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar hanes yr iaith, yr iaith lafar, gramadeg a geirfa, enwau, yr ieithoedd Celtaidd, ac addysg Gymraeg; ynghyd ag ychydig bapurau perthynol i'w waith fel aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.