Showing 3 results

Archival description
Aldhouse-Green, Miranda J. (Miranda Jane)
Print preview View:

Adeilad, chyfleusterau, a phrosiectau'r Ganolfan

Gohebiaeth, 1990-1993, yn ymwneud ag adeilad y Ganolfan, yn trafod gweithgareddau codi arian, gwaith i wella adeilad y Ganolfan a’i chyfleusterau, trefniadau agoriad swyddogol yr adeilad newydd yn Mai 1993, a phrosiectau ymchwil; yn cynnwys llythyrau oddi wrth Geraint H. Jenkins; Eric Thomas; Kenneth Morgan; Elwyn Jones; D.I. George; Andrew Hawke; Emyr Roberts; J. D. Pritchard; T. Gwynfor Griffith; P.S. Robinson; Jan Gendall; R. Geraint Gruffydd; Ralph A. Griffiths; Moosong Goh; Miranda Aldhouse-Green; Glenys Goetinck; a William Gillies.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 1991; agenda, nodiadau’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod, Medi 1992; adroddiad ariannol y Ganolfan, ac adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1991-1992 (1992). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1992), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; Peter Roberts; Miranda Aldhouse-Green; Gareth Wyn Evans; Hugh Jones; Llinos Roberts-Young (fel yr Ysgrifennydd); M.A.R. Kemp; Derec Llwyd Morgan; Kenneth O. Morgan; a Hywel Wyn Jones.

Adroddiadau ac adolygiadau

Adroddiadau ac adolygiadau yn ymwneud â’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, yn cynnwys Adroddiad y Gweithgor Astudiaethau Celtaidd [1988]; adroddiad ar y Ganolfan gan yr Adolygiad Astudiaethau Celtaidd Pwyllgor Grantiau’r Prifysgolion [1988]; adolygiad y Pwyllgor ar Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad o ymweliad y Pwyllgor Grantiau i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad y Pwyllgor ar yr Adran Hanes Cymreig, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Grantiau i’r Pwyllgor Is-gangellorion a Phenaethiaid [1987]; a chopi o’r Cynllun Academaidd i 1990, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth (1987). Mae’r ohebiaeth (1987-1991), sy'n trafod materion y Pwyllgor Grantiau, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Jeffrey Pritchard; Graeme Davies; Peter Swinnerton-Dyer; Sheila Seekings-Foster; Gareth Wyn Evans; M.A.R. Kemp; Patrick Sims-Williams; Miranda Aldhouse-Green; Norman Hardyman; a J. Beverley Smith.