Showing 75 results

Archival description
Papurau L. Haydn Lewis,
Print preview View:

Papurau L. Haydn Lewis,

  • GB 0210 LHLEWIS
  • fonds
  • 1886-1985 (crynhowyd [c.1923]-[c.1985]) /

Papurau'r Parch. L. Haydn Lewis, 1886-1985, yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith a gyfansoddwyd ganddo, gan gynnwys gwaith a gyhoeddwyd yn Cerddi cyfnod (Caernarfon, 1963), Cerddi Argyfwng (Llandybïe, 1966) a Meini ac olion (Llandysul, 1975), llyfrau nodiadau yn cynnwys rhyddiaith, erthyglau a thraethodau, cyflwyniadau dramatig a dramâu cerdd gyda geiriau a ysgrifennwyd ganddo; ynghyd â nodiadau ei ddarlithoedd, pregethau, gohebiaeth, torion o'r wasg, nodiadau ar seremonïau a berfformiwyd yng nghapel Jerusalem, Tonpentre; papurau teuluol yn cynnwys deunydd achyddol, a rhai papurau o eiddo ei dad, Thomas Lewis,1886-1923. = Papers of the Rev. L. Haydn Lewis, 1886-1985, comprising his poetry and prose compositions, including the work published as Cerddi cyfnod(Caernarfon, 1963), Cerddi argyfwng (Llandybie, 1966) and Meini ac olion (Llandysul, 1975), notebooks containing prose, articles and essays, dramatic productions and musical dramas that he wrote the words for; together with his lecture notes, sermons, correspondence, press cuttings, notes on ceremonies performed at Jerusalem chapel, Tonpentre; family papers including genealogical material, and some papers of his father, Thomas Lewis, 1886-1923.

Lewis, L. Haydn (Lewis Haydn), 1903-1985.

Copïau llawysgrif a theipysgrif o'r bryddest fuddugol 'Ffoadur ("Unwaith dan Amser..." Dylan Thomas)' [pryddest y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor ...,

Copïau llawysgrif a theipysgrif o'r bryddest fuddugol 'Ffoadur ("Unwaith dan Amser..." Dylan Thomas)' [pryddest y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961]; copiau llawysgrif a theip-ysgrif o drosiad Saesneg o'r bryddest - 'Fugitive' ynghyd â llythyrau perthnasol, 1961-2.

Deunydd ynglyn â 'Daucanmlwyddiant y "Ffarwel Weledig" (1763-1963)', tair ysgrif ar Bantycelyn ym mlwyddyn dathlu cyhoeddi rhan gyntaf un o'i ...,

Deunydd ynglyn â 'Daucanmlwyddiant y "Ffarwel Weledig" (1763-1963)', tair ysgrif ar Bantycelyn ym mlwyddyn dathlu cyhoeddi rhan gyntaf un o'i brif weithiau Ffarwel Weledig, Croesaw Anweledig Bethau, neu Rai Hymnau o Fawl i Dduw a'r Oen (Caerfyrddin, 1763), gan gynnwys copiau drafft o'r ysgrifau, copiau o'r Drysorfa, Chwefror - Ebrill, Mehefin, Awst 1963, yn cynnwys yr ysgrifau, a dau lythyr, 1962, oddi wrth y Parch. Eliseus Howells, golygydd Y Drysorfa.

Results 1 to 20 of 75