Showing 3779 results

Archival description
file
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Gramadegau'r Penceirddiaid

Deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid a olygwyd gan G. J. Williams ac E. J. Jones (Caerdydd, 1934), gan gynnwys nifer o adysgrifau a chyfeiriadau at ramadegau mewn llawysgrifau, ynghyd â phapurau'n ymwneud â gramadegau Gutun Owain, Gwilym Tew, Einion Offeiriad a Dafydd Ddu Athro o Hiraddug. Mae rhai o'r papurau yn llaw E. J. Jones.

Jones, Evan J.

Llythyrau amrywiol: 1923-1973

Llythyrau amrywiol, 1923-1973, gan gynnwys rhai oddi wrth Violet Alford (2); J. Redwood Anderson (15); J. Bodfan Anwyl (3); E. R. Appleton (3); E. Bachellery (2); F. A. Bather; H. Idris Bell (15); Richard Bennett (3); R. G. Berry (2); Aneurin Bevan; Gwilym Bowyer; Joseph Bradney; a Henry Brooke.

Alford, Violet

Y Gododdin

Adysgrif a wnaed gan William Owen [-Pughe], 1783, o gyfrol [llawysgrif] testun Aneirin o'r Gododdin oedd ym meddiant Owen Jones [Owain Myfyr] yn Llundain. Mae'r gyfrol hefyd yn dwyn enw Thomas Evans, 1850.

Pughe, W. Owen (William Owen), 1759-1835

Llyfrau nodiadau ar hanes y Crynwyr,

Llyfrau nodiadau, [1961]-[1969], yn cynnwys gwaith ymchwil Marion Eames ar hanes y Crynwyr yng Nghymru ac ym Mhennsylfania ar gyfer y nofelau Y Stafell Ddirgel ac Y Rhandir Mwyn. = Notebooks, [1961]-[1969], containing research conducted by Marion Eames into the history of the Quakers in Wales and Pennsylvania in preparation for writing the novels Y Stafell Ddirgel and Y Rhandir Mwyn.

Anerchiadau a darlithiau,

Drafftiau o anerchiadau a darlithiau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-[2007], yn sôn am ei nofelau a'i bywyd, ac yn trafod pynciau megis hanes y Crynwyr yng Nghymru. = Drafts of various speeches and lectures by Marion Eames, [1970]-[2007], discussing her life, her writing and topics such as the history of the Quakers in Wales.

Dramâu

Sgriptiau mewn teipysgrif: 'Ann y Wernolau', 1921, drama gan Mrs Teifi Jones, mam Idwal Jones, buddugol yn Eisteddfod Aberaeron (copi hefyd ymhlith Papurau Idwal Jones B/5), 'Kith and kin' sef comedi E. Eynon Evans, [1939]-[1946], ynghyd â 'Gwirionedd', drama un act mewn ffurf alegori, [1922], gan 'Seth' mewn llawysgrif.

Evans, E. Eynon

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

Nodiadau Syr Ben Bowen Thomas ar faledi,

  • NLW ex 2726.
  • file
  • [1949]-[1950].

Nodiadau, [1949]-[1950], ar ffynonellau baledi ar slipiau o bapur mewn amlenni wedi'u trefnu yn ôl thema [ar gyfer ei gyhoeddiad Drych y baledwr (Aberystwyth, 1958)], gan gynnwys llythyrau a dderbyniodd yn ymwneud â'i ymchwil.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Llythyrau,

Llythyrau oddi wrth gyfranwyr i Taliesin gan gynnwys rhai oddi wrth Euros Bowen (13), Harri Pritchard Jones (2), Gareth [Alban Davies] (3), Rhydwen Williams (2), Gwyn Williams, Steve Eaves (3), Gerallt [Jones] (4), Gwilym R. [Jones], [R.] Bryn [Williams] (2), [T.] Llew [Jones], Hafina Clwyd, J. Gwyn Griffiths (3), Prys [Morgan] (3), Aled Jones-Williams, Gwyn Thomas (15), J. R. Jones, Bedwyr [Lewis Jones], John Rowlands, Mari [Ellis], Leslie [Richards], Eluned Phillips, Nesta [Wyn Jones] (2), Bryan [Martin Davies] (7), Derec [Llwyd Morgan] (3), Siôn Eirian (3), B[en] B[owen] T[homas], W. D. [Williams] (4), Iorwerth [Peate] (3), Kate Roberts, Caradog [Prichard] (5), Eigra [Lewis Roberts], Meic [Stephens], Harri [Gwynn], Islwyn [Ffowc Elis] (2), Gwenallt, John [Gwilym Jones], a Dyddgu [Owen].

Bowen, Euros

Llythyrau P-T,

Ymhlith y gohebwyr mae Thomas Parry (12); Iorwerth Peate (8); Caradog Prichard (4); Eigra Lewis Roberts (1); Kate Roberts (20); Wyn Roberts (1); John Rowlands (1); Ben Bowen Thomas (4); Gwyn Thomas (3); Ned Thomas (2); ac R. S. Thomas (1).

Parry, Thomas, 1904-1985

Llythyrau a drafftiau

25 llythyr ac 19 o ddrafftiau nas cyhoeddwyd yn Y Llenor yn cynnwys barddoniaeth, ysgrifau, straeon byrion ac erthyglau, 1934-1945. Yn eu mysg ceir cyfraniadau gan D. Tecwyn Lloyd, 1944, Idris Davies, 1944, Gwilym R. Tilsley, 1944, R. T. Jenkins, 1944, Euros Bowen, 1941, Cynan, 1942, Harri Williams, heb eu dyddio, W. Ambrose Bebb, 1942, a Melville Richards, 1934.

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn)

Llythyrau B

Llythyrau, 1913-1968. Ymhlith y gohebwyr mae Ambrose Bebb (11), Hugh Bevan (4), D. J. Bowen (65), [David Bowen], 'Myfyr Hefin' (1), Euros Bowen (4).

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Llythyrau A-C

Llythyrau, 1923-1980, gan gynnwys rhai oddi wrth Bo Almqvist (3); Ifor ap Gwilym (2); Arthur ap Gwynn (29); Euros Bowen (3); Anne Buck (4); James Callaghan; Harold Carter; Gerard Casey; Leah Chalmers; Charles Charman, Gwasg Gee (11, rhai yn ymwneud â chyhoeddi Diwylliant gwerin Cymru a Rhwng dau fyd); Basil Cottle; a D. H. Culpitt. Mae rhai llythyrau yn ymholiadau ynglŷn â diwylliant gwerin.

Almqvist, Bo.

Torion

Torion, [1955]-1969, yn ymwneud â phynciau amrywiol fel safbwynt gwleidyddol Desmond Donnelly; Plaid Cymru; crynodeb o anerchiad D. J. Williams i Gyngor yr Eglwysi Rhyddion, Abergwaun, yn Baner ac Amserau Cymru, 1957 a'i 'arwyr bore oes' yn Y Ddraig Goch, Rhagfyr 1958.

Llythyrau L (Saunders Lewis)

Yn eu plith ceir rhai'n ymwneud â sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â'r llythyrau, ceir copi teipysgrif o 'Cywydd Marwnad T. Gwynn Jones' gan, ac wedi ei arwyddo gan, Saunders Lewis; a 'Golygfa Mewn Caffe neu, Y Terfyn yng Nghymru', gan ac yn llaw Saunders Lewis. Hefyd, ceir un llythyr, dyddiedig 1931, at Saunders Lewis.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Gohebiaeth gyffredinol 1970-1974,

Ymhlith y gohebwyr mae Bernard Picton (Knight), Dafydd Iwan, John Jenkins o garchar Albany yn cynnig syniad am gardiau i garcharorion 'gwleidyddol', Judith Maro yn trafod ei nofelau, Gareth Miles yn trafod ei gyfraniad at LOL a gweithiau eraill, Islwyn Ffowc Elis, Derrick K. Hearne ar ei gyfrol The Rise of the Welsh Republic, a Watcyn Owen ar ran John Jenkins. Hefyd ceir llythyrau yn trafod ymgyrch Dwynwen, gwaith Cymdeithas yr Iaith, posteri ar gyfer Plaid Cymru, safiad Robat Gruffudd yn mynnu ffurflenni Cymraeg, ac adeilad y Lolfa.

Results 1 to 20 of 3779