Fonds GB 0210 MENFYN - Papurau Menna Elfyn

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 MENFYN

Teitl

Papurau Menna Elfyn

Dyddiad(au)

  • 1937-2022 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

8 bocs mawr + 16 bocs bach (0.373 mᶟ) (rhodd Rhagfyr 2017)

2 focs mawr + 4 bocs bach (0.094 mᶟ) (rhodd Mai 2023)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1951-)

Hanes bywgraffyddol

Hanes archifol

Ffynhonnell

Prynwyd oddi wrth Dr Menna Elfyn, Caerfyrddin, Rhagfyr 2017.

Rhoddwyd gan Dr Menna Elfyn, Caerfyrddin, Mai 2023.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Dr Menna Elfyn, 1950-2017, sy'n adlewyrchu ei bywyd a'i gwaith llenyddol a gwleidyddol, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â'r meysydd canlynol: barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu ar gyfer y llwyfan a'r cyfryngau a phrosiectau cerddorol a chelfyddydol ar y cyd, ynghyd â chyfieithiadau o'i gwaith barddonol i amryw ieithoedd; ei mynych deithiau i ŵyliau barddonol, seminarau a darlleniadau ac i gynnal gweithdai; gyrfa academaidd Menna Elfyn, gan gynnwys ei chyfnodau fel awdur preswyl; anrhydeddau a gwobrau a ddaeth i'w rhan yn ystod ei gyrfa; cyfnodau ymgyrchu a charcharu Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, ac ymgyrchoedd dros heddwch, cyfiawnder a hawliau merched; yn ogystal ag ystod sylweddol o ohebiaeth, yn bennaf gyda beirdd a llenorion eraill.

Daeth ychwanegiad i law ym mis Mai 2023, a atodwyd i'r archif fel cyfres 'Y' (Deunydd ychwanegol Mai 2023), fel a ganlyn:
Papurau o eiddo neu sydd a wnelo â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn, sy'n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn, deunydd yn ymwneud â chysiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn, llyfrau nodiadau a gohebiaeth; ynghyd ag erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud a bywyd a gwaith Menna Elfyn a rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Gosodwyd deunydd dyddiedig, e.e. gohebiaeth, yn ôl trefn gronolegol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

  • Arabeg
  • Basgeg
  • Llydaweg
  • Bwlgareg
  • Catalaneg
  • Tseineeg
  • Tsiec
  • Iseldireg
  • Saesneg
  • Estoneg
  • Ffrangeg
  • Galiseg
  • Almaeneg
  • Groeg
  • Hindi
  • Gwyddeleg
  • Eidaleg
  • Siapaneeg
  • Lithwaneg
  • Ocsitaneg
  • Pwyleg
  • Portiwgaleg
  • Pwnjabi
  • Sinhaleg
  • Slofeneg
  • Sbaeneg
  • Swedeg
  • Tamil
  • Turkish
  • Wcreineg
  • Fietnameg
  • Cymraeg
  • Western Frisian

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Abjad (Arabeg)
Hanzi (Tsieinëeg)
Kanji (Siapanaeg)
Devanagari (Hindi)
Abugida (Sinhala & Tamil)
Cyrillic (Bwlgareg & Wcreineg)
Tyrceg
Peth Hanzi (Tsieinëeg).

Deunydd ychwanegol Mai 2023:
Dan bennawd Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg: Un eitem ym Mhortiwgaleg; un eitem yn Sbaeneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Trosglwyddwyd posteri a lluniau (mewn ffrâm yn bennaf) i'r casgliad gweledol yn Rhagfyr 2017, lle ceir mynediad iddynt trwy gais.
Manylion y deunydd gweledol, fesul teitl a rhif derbyn, fel a ganlyn:

[Angladd Meilir Emrys Owen 1958-1988 gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru]
99817733202419

Brooch: (in memory of Stephanie Macleod)
99817728702419

Caoineadh: (I gcuimhne mo mhathar)
99817735602419

Cerddi diweddar Menna Elfyn bardd a llenor Nos Iau 10fed o Fawrth [yn] Gwesty Thomas Arms, Llanelli
99817729402419

Cerddi'r planedau
99817728602419

Cicio ciwcymbars: Menna Elfyn, Steve Eaves, Ifor ap Glyn, Iwan Llwyd, Elwyn Williams a beirdd lleol eraill ym mhob canolfan : 99817735802419

Dalier Sylw yn cyflwyno Y Forwyn Goch portread o Simone Weil gan Menna Elfyn
99817729302419

Gweld y môr gynta' = Primeiro encontro com o mar
99817738102419

Huw Huws
99817729202419

[Lightness]
99817728802419

Lightness
99817729002419

Maen Llia
99817729102419

Menna Elfyn
99817735702419

Menna Elfyn
99817737102419

O mo bheirt Phailistineach: 18/9/82, iar bhfeiscint dom tuariste theilifise ar shlad na bPailistineach i mBeirut
99817734502419

Perffaith nam
99817739602419

Rana rebel
99817736302419

Shoes: (in a museum of Résistance and Nazi memorabilia)
99817738302419

Theatr Taliesin Cymru a Phobl De Caerdydd yn 'Madog Cymru'n darganfod America...
99817733102419

Trosglwyddwyd dau focs o ddeunydd clyweledol i Archif Sgrîn a Sain y Llyfrgell yn Rhagfyr 2017, lle ceir mynediad iddynt trwy gais.
Rhif derbyn: 99817730502419

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Mae Menna Elfyn (g. 1952) yn fardd, dramodydd, colofnydd a golygydd. Ymhlith ei chynnyrch toreithiog ceir sawl cyfrol o farddoniaeth, dramâu ar gyfer y llwyfan, radio a theledu, rhaglenni teledu dogfennol a llyfrau plant, yn ogystal â nifer o brosiectau cerddorol ar y cyd gyda chyfansoddwyr ac artistiaid. Mae ei gweithiau dwyieithog yn cynnwys y dair flodeugerdd Eucalyptus (1995), Cell Angel (1996) a Cusan Dyn Dall (2001). Ennillodd nifer o wobrwyon am ei gwaith, gan gynnwys y Creative Wales Award yn 2008 a chymeradwyaeth gan y Poetry Book Society am The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry, cyfrol a gyd-olygodd gyda'r awdur a'r academydd John Rowlands. Mae'n cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol rhyngwladol ac yn rhedeg cyrsiau a gweithdai ysgrifennu. Yn 2002 fe'i hapwyntiwyd yn Fardd Llawryfog ar gyfer Plant Cymru. Cyfieithiwyd ei gwaith i ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Sbaeneg, Tsieinëeg, Lithwaneg, Swedeg, Wcreineg, Groeg, Hindi a Slofeneg. Fe'i disgrifiwyd gan y bardd Eingl-Gymreig Tony Conran fel "the first Welsh poet in 1500 years to have her work known outside Wales". Ers sawl blwyddyn bellach mae'n Gyfarwyddwraig Creadigol y cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yng Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a bu'n Gymrawd Llenyddol Prifysgolion Aberystwyth (2002-2006, 2013/14) ac Abertawe (2007-2010). Yn 2015 enillodd Gymrodoriaeth y Royal Society of Literature yn ogystal â Llywyddiaeth PEN Cymru ac, yn 2018, fe'i penodwyd yn Gymrawd o'r Learned Society of Wales.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Alma system control number

99815105302419

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan, Ionawr 2018.

Lluniwyd disgrifiad y deunydd ychwanegol gan Bethan Ifan, Medi 2023.

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig