Mynachlog-ddu (Wales)

Tacsonomeg

Cod

Nodyn(nodiadau) cwmpas

Nodyn(nodiadau) ffynhonnell

Nodyn(nodiadau) darganfod

Termau hierarchaidd

Mynachlog-ddu (Wales)

Termau cyfwerth

Mynachlog-ddu (Wales)

Termau cysylltiedig

Mynachlog-ddu (Wales)

2 Disgrifiad archifol canlyniad ar gyfer Mynachlog-ddu (Wales)

2 canlyniad yn uniongyrchol gysylltiedig Eithrio termau culach

Araith wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Brynconin

Llungopi o dudalennau llyfr nodiadau yn cynnwys araith yn llaw John Edwal Williams wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Gynradd Brynconin, Mynachlog-ddu oedd yn mynd ymlaen i Ysgol Sir Arberth ym mis Medi 1917. Yr oedd John Edwal yn brifathro Ysgol Brynconin ar y pryd. Ar gefn y ddalen olaf ceir arysgrif o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal (gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), sy'n darllen 'Oedd llety personol i bob un o blant ysgol Blaen [sic - am Brynconin] oedd yn mynd ml'an i ysgol Arberth'; ynghyd â llungopi o'r araith fel yr ymddangosodd yn The Baptist Record.

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams a'i chwiorydd Morvydd Monica Williams a Mary Enid Williams (yn ddiweddarach Francis) ac o'r pump plentyn - Morvydd Monica, Mary Enid, Waldo, Roger (brawd Waldo) a Dilys Williams (chwaer Waldo). Mae'r arysgrif anhysbys (wedi'i lungopïo) ochr-yn-ochr â'r lluniau yn datgan fel y nodwyd gwybodaeth ar gefn y ffotograffau gwreiddiol gan Dilys Williams.

Llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915, yn eu plith Waldo Williams, ei chwiorydd Morvydd a Mary, ei frawd Roger a'i dad John Edwal Williams, prifathro'r ysgol. Rhestrir enwau'r plant a'r athrawon ar waelod y llun.