fonds GB 0210 ADREES - Papurau Alwyn D. Rees,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 ADREES

Teitl

Papurau Alwyn D. Rees,

Dyddiad(au)

  • [c. 1930]-1974 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.839 metrau ciwbig (29 bocs, 1 rolyn)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd Alwyn D. Rees (1911-1974) o Gorseinon, sir Forgannwg, yn gymdeithasegydd. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn cael ei benodi'n diwtor yn 1936 ac yn Gyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol y coleg hwnnw yn 1949. Parhaodd yn y swydd tan ei farwolaeth. Gwelodd y bygythiadau sydd yn wynebu diwylliannau lleiafrifol, ac roedd yn gefnogwr brwd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod cyfnod mwyaf dadleuol ei hanes. Roedd Rees yn un o'r ymgyrchwyr dros sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth. Roedd yn olygydd Barn, 1966-1974, ac Yr Einion rhwng 1949 a 1958. Yn 1950 cyhoeddodd gampwaith ar astudiaethau gwerin Cymru, Life in a Welsh Countryside, am blwyf Llanfihangel yng Ngwynfa yn y 1930au, ac roedd yn gyd-olygydd Welsh Rural Communities. Ysgrifennodd Celtic Heritage yn 1961 gyda'i frawd Brinley Rees.

Hanes archifol

Daeth y papurau i feddiant Alwyn D. Rees yn ystod ei fywyd a'i yrfa.

Ffynhonnell

Mrs M. E. Rees; Adnau (cawsant eu troi'n rhodd ym Medi 1992); Chwefror 1978

Dr Gwyn Davies; Aberystwyth; Rhodd; Mehefin 1992

Mr Brynmor Thomas; Borth, Ceredigion; Rhodd; 1993

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau'r cymdeithasegydd Alwyn D. Rees, 1911-1974, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Phrifysgol Cymru, yn bennaf â Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1920au-1974, gan gynnwys papurau'n ymwneud â'r comisiwn a sefydlwyd i archwilio strwythur ffederal Prifysgol Cymru yn y 1960au; papurau ynglŷn â lle'r Gymraeg yn y Brifysgol a'r ymgyrch i sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth,1967-1974; papurau'n ymwneud â llyfrau, erthyglau a darlithoedd Alwyn D. Rees, 1933-1973, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, [c.1964]-1974; papurau'n ymwneud â Barn, 1966-1967; papurau'n ymwneud â darlledu yng Nghymru, 1938-1974; papurau'n ymwneud â'r diwydiant llechi yng Nghymru,1946; papurau'n ymwneud â gwleidyddiaeth yng Nghymru, 1911-1974; gohebiaeth gyffredinol, 1935-1974; a phapurau a gohebiaeth bersonol , 1930-1974 = Papers of the sociologist Alwyn D. Rees, 1911-1974, including papers relating to the University of Wales, mainly the University College of Wales, Aberystwyth, 1930s-1974, including papers relating to the commission established to examine the federal structure of the University of Wales in the 1960s; papers concerning the place of the Welsh language in the University and the campaign to establish a Welsh student hostel at Aberystwyth, 1967-1974; papers relating to the University of Malta, 1940-1951; Alwyn D. Rees's research papers, 1933-1973; papers relating to Alwyn D. Rees's books, articles and lectures, and further related research papers assembled by him, 1925-1974; papers relating to the Welsh language, 1952-1974, and 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', [c. 1964]-1974; papers relating to 'Barn', 1966-1975; papers relating to broadcasting in Wales, 1938-1974; papers relating to the Welsh slate industry, 1946; papers relating to politics in Wales, 1911-1974; general correspondence, 1935-1974; and personal papers and correspondence, 1930-1974.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: Prifysgol Cymru; Prifysgol Malta; papurau ymchwil; cyhoeddiadau, darlithoedd ac erthyglau; y Gymraeg; golygu cylchgrawn Barn darlledu; y diwydiant llechi; ffeiliau gohebiaeth gyffredinol; papurau personol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau moden - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844306

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Papurau Alwyn D. Rees; Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986);

Ardal derbyn