Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1887-1955 (yn bennaf 1919-1955) (crynhowyd [1920au]-1958) (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.010 metrau ciwbig (11 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd yr awdur a'r hanesydd William Ambrose Bebb yng Ngoginan, Ceredigion, yn 1894. Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1918 cyn treulio dwy flynedd arall yno yn astudio ar gyfer gradd MA. Aeth i Brifysgol Rennes yn 1920 ond symudodd i'r Sorbonne ym Mharis cyn pen ychydig wythnosau lle bu'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd a lle daeth dan ddylanwad Charles Maurras a'r Action Francaise, ac y daeth yn edmygydd mawr o Ffrainc a'i diwylliant. Ymunodd â staff Adran Hanes y Coleg Normal, Bangor, yn 1925, gan ddod, yn ddiweddarach, yn bennaeth yr Adran. Cyhoeddodd ei fyfyrdodau ar wareiddiad Ewrop yn y gyfrol Crwydro'r Cyfandir (1936). Daeth i adnabod Llydaw yn dda a rhoddodd adroddiadau ar ei gysylltiadau â'r mudiad cenedlaethol yn y wlad honno mewn tri llyfr a gyhoeddwyd rhwng 1929 a 1941. Ysgrifennodd gyfres o bum llyfr ar hanes Cymru, a gyhoeddwyd rhwng 1932 a 1950, ac y mae llawysgrifau'r cyfrolau hynny ymysg y papurau hyn. Yn 1924 sefydlodd y Mudiad Cymreig ar y cyd â Saunders Lewis a Griffith John Williams, mudiad a ddatblygodd yn ddiweddarach i fod yn Blaid Genedlaethol Cymru ac a ddaeth wedi hynny yn Blaid Cymru. Parhaodd i fod yn un o gefnogwyr selocaf y Blaid hyd at yr Ail Ryfel Byd ac fe safodd yn ymgeisydd drosti yn Arfon yn Etholiad Cyffredinol 1945. Tua diwedd ei oes, fodd bynnag, oerodd ei s1/4l wleidyddol a rhoddai bwyslais cynyddol ar egwyddorion Cristnogol, fel y dengys ei lyfr olaf, Yr Argyfwng, a gyhoeddwyd yn 1956, ar ôl ei farwolaeth.
Priododd yn 1931 ag Eluned Pierce Roberts, Llangadfan, a bu iddynt saith o blant. Gwnaeth y teulu eu cartref yn Llwydiarth, Ffordd Ffriddoedd, Bangor Uchaf. Bu farw Ambrose Bebb yn sydyn ar 27 Ebrill 1955.
Hanes archifol
Bu papurau Ambrose Bebb yn nwylo'r teulu ers ei farw yn 1955. Cyn eu trosglwyddo i'r Llyfrgell fe ddefnyddiwyd rhai o'r papurau gan Robin Humphreys a Robin Chapman ar gyfer eu hymchwil i'w cyfrolau ar Ambrose Bebb. Ni throsglwyddwyd pump o'r dyddiaduron a gyhoeddwyd gan Robin Humphreys, sef rhai 1920-1925, i ofal y Llyfrgell.
Ffynhonnell
Adneuwyd gan ferch Ambrose Bebb, Mrs Lowri Williams, Wdig, sir Benfro, Mawrth 1998, a chanddi trwy law T. Robin Chapman, Aberystwyth, Mai 2004.; C1998/7, 0200405302
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys gohebiaeth, 1898-1958, dyddiaduron, 1918-1954, llawysgrifau a theipysgrifau llawer o'i gyhoeddiadau llenyddol, hanesyddol, crefyddol a hunangofiannol, 1934-1955, copi o'i draethawd MA, 1920, ynghyd â nifer bychan o ddarlithoedd a phapurau amrywiol, 1937-1949. Mae rhai o'r llythyrau at Bebb, ynghyd â rhai o'i ddyddiaduron, yn taflu goleuni gwerthfawr ar gyflwr a hanes Llydaw cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac i raddau llai, ar hanes cynnar Plaid Cymru.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd y cyfan o bapurau Ambrose Bebb a adneuwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC ar sail profiant i bedwar grŵp: papurau personol, [?1920]-1955, cyhoeddiadau, 1934-1955, papurau academaidd, 1920-1949, a phapurau amrywiol, 1937-1949.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
- Ffrangeg
- Llydaweg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Llydaweg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC ac yn Llyfrgell y Coleg, Prifysgol Cymru Bangor.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Lowri Williams, gol., Bro a Bywyd Ambrose Bebb, (Barddas, 1995),
T. Robin Chapman, W. Ambrose Bebb, Cyfres Dawn Dweud, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997), a gweler disgrifiad cyfres PD1.
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Awst 2001.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan R. Arwel Jones.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1997); Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain, 1997);