Fonds GB 0210 APNATHAN - Papurau Ap Nathan

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 APNATHAN

Teitl

Papurau Ap Nathan

Dyddiad(au)

  • 1868-1959 (crynhowyd [c. 1905]-1959) (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.32 metrau ciwbig (12 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd y Parch. James Ednyfed Rhys (Ap Nathan, 1876-1960) yn fab i Jonathan Rees (Nathan Wyn). Roedd Ap Nathan yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn llenor ac yn fardd. Bu'n weinidog yn Aberafan a Nantymoel tan 1940. Byddai'n cystadlu'n gyson ac yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyfrannai at gyfnodolion a chyhoeddodd Cymeriadau Cefn Gwlad (Caerdydd, 1948).

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd y Parch. Evan Rees (Dyfed, 1850-1923) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn fardd, a bu'n Archdderwydd Cymru am 21 mlynedd. Cafodd ei fagu yn Aberdâr, sir Forgannwg, a daeth yn weinidog Seion, Capel y Methodistiaid Calfinaidd, yng Nghaerdydd. Roedd yn fardd nodedig, a chafodd gryn lwyddiant mewn cystadlaethau eisteddfodol. Teithiodd yn eang ac roedd galw mawr arno fel darlithydd. Bu'n olygydd Y Drysorfa, 1918-1923, a chyhoeddodd sawl cyfrol o'i farddoniaeth yn cynnwys Gwaith barddonol Dyfed (Caerdydd, 1903-1907, 2 gyfrol).

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd Jonathan Rees (Nathan Wyn, 1841-1905), yn fardd ac yn ysgrifwr oedd yn gweithio fel swyddog pwll glo yn Ystrad Rhondda, sir Forgannwg. Enillodd bri fel bardd, gan ennill chwe gwobr yn Eisteddfod Lerpwl yn 1900. Cyfrannodd gerddi i amryw gyfnodolyn a chyhoeddodd Caniadau Nathan Wyn (Treherbert, 1881). Ei frawd ieuengaf oedd y Parch. Evan Rees (Dyfed, 1850-1923).

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd David Watkin Jones (Dafydd Morganwg, 1832-1905) yn fardd a hanesydd o Ferthyr Tudful, Morgannwg.

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd Thomas Jones (1871-1938) yn hynafiaethydd a phrifathro ysgol Trealaw yn y Rhondda, Morgannwg, gyda hanes lleol a llên gwerin ymysg ei ddiddordebau.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Miss Beti Rhys, merch Ap Nathan; Aberystwyth; Adnau; 1984.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau'r Parch James Ednyfed Rhys (Ap Nathan), a phapurau'r unigolion canlynol a ddaeth i'w feddiant: y Parch. Evan Rees (Dyfed), Jonathan Rees (Nathan Wyn), David Watkin Jones (Dafydd Morganwg) a Thomas Jones, Trealaw. Mae papurau Ap Nathan, 1901-1959, yn cynnwys cerddi a chaneuon, ysgrifau a chyfieithiadau; papurau Dyfed, 1869-1923, yn cynnwys llythyrau, nifer ohonynt o bwysigion llenyddiaeth Cymru, 1878-1923, dyddiaduron a llyfrau poced, 1873-1896, beirniadaethau eisteddfodau, 1887-1907, nodiadau darlithoedd a phregethau, a barddoniaeth, 1869-1899; papurau Nathan Wyn, 1874-1905, yn cynnwys llythyrau, 1874-1905, cerddi ac ysgrifau, 1883-1901, torion o'r wasg ar bynciau llenyddol, 1868-1900; papurau Thomas Thomas, 1900-[c. 1935], yn cynnwys llawysgrifau ar lên gwerin ac arferion, hanes Morgannwg, 1921-1933, y Wenhwyseg, enwau lleoedd Morgannwg, [c. 1893]-1931, a thorion o'r wasg, 1900-1911; a phapurau Dafydd Morganwg, yn cynnwys ei hunangofiant. = Papers of the Rev. James Ednyfed Rhys (Ap Nathan), and papers of the following acquired by him: the Rev. Evan Rees (Dyfed), Jonathan Rees (Nathan Wyn), David Watkin Jones (Dafydd Morganwg), a poet and historian from Merthyr Tydfil, Glamorgan, and Thomas Jones, antiquary and headmaster of Trealaw school in Rhondda, Glamorgan, whose interests included local history and folklore. The papers of Ap Nathan, 1901-1959, include poems and songs, essays and translations; the papers of Dyfed, 1869-1923, include letters, many from important Welsh literary figures, 1878-1923, diaries and pocket books, 1873-1896, eisteddfod adjudications, 1887-1907, lecture notes and sermons, and poetry, 1869-1899; the papers of Nathan Wyn, 1874-1905, include letters, 1874-1905, poetry and essays, 1883-1901, newspaper cuttings of literary material, 1868-1900; the papers of Thomas Jones, 1900-[c. 1935], include manuscripts on folklore and customs, Glamorgan history, 1921-1933, the Gwentian dialect, Glamorgan place names, [c. 1893]-1931, and newspaper cuttings, 1900-1911; and the papers of Dafydd Morganwg, historian and poet, including his autobiography.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: Ap Nathan; Dyfed; Dafydd Morgannwg; Nathan Wyn; Tom Jones, Trealaw; ac amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r furflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog hefyd ar gael ar lein.

Cymorth chwilio a gynhyrchir

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

Beti Rhys, Dyfed: Bywyd a Gwaith Evan Rees (1850-1923) (Dinbych, 1984).

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844003

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Medi 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LLGC, Rhestr o Bapurau Ap Nathan; Dictionary of Welsh biography down to 1940 (Llundain, 1959); LlGC, Mynegai Bywgraffiadol W. W. Price (heb ei gyhoeddi)

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.

Ardal derbyn