fonds GB 0210 BRYFDIR - Papurau Bryfdir,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 BRYFDIR

Teitl

Papurau Bryfdir,

Dyddiad(au)

  • 1891-1941 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.029 metrau ciwbig (1 bocs, 1 amlen)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd 'Bryfdir', Humphrey Jones (1867-1947), yn chwarelwr a bardd. Ganwyd ef yng Nghwm Croesor, Meirionnydd, ar 13 Rhagfyr 1867. Ar ôl gadael ysgol yn 12, bu'n chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog lle treuliodd weddill ei fywyd. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth a chystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn ifanc, gan ymuno â Gorsedd y Beirdd yn 1890 ac ennill dim llai na 64 cadair farddol ac 8 coron yn ystod ei fywyd. Roedd yn enwog fel arweinydd eisteddfodau. Cyfrannodd at gylchgronau Y Genhinen a Cymru yn ogystal â chyhoeddi dwy gyfrol o'i farddoniaeth: Telynau'r Wawr (Blaenau Ffestiniog, 1899) a Bro Fy Mebyd a Chaniadau Eraill (Bala, 1929) Roedd ganddo 5 o blant, a bu farw 22 Ionawr 1947.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Mrs G. A. Jones, merch-yng-nghyfraith Bryfdir, trwy law Mr Gareth Haulfryn Williams, Dolgellau; Blaenau Ffestiniog; Rhodd; 1972

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau llenyddol Bryfdir, 1891-1941, rhai ohonynt wedi eu cyhoeddi, yn cynnwys copïau mewn llawysgrif o farddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd, llawer ohonynt ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol,1893-1941; llyfrau nodiadau a chyfrolau eraill yn cynnwys copïau o gerddi a nodiadau ac ychydig o eitemau eraill megis rhyddiaith, torion papur newydd a thystysgrifau, [1891]-[1936] = Literary papers of Bryfdir, 1891-1941, some of which have been published, including manuscripts of poetry in strict and free metre, many of which were written for eisteddfod competitions, 1893-1941; notebooks and other volumes containing copies of poems and notes and a few other items such as prose, newspaper cuttings and certificates, [1891]-[1936].

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwd fel a ganlyn: barddoniaeth, yn ôl math; a llyfrau nodiadau a chyfrolau amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog, Gweithiau Barddonol Bryfdir, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir papurau pellach Bryfdir yn Archifdy Meirionnydd, ZM//932; mae llythyrau oddi wrtho yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan gynnwys Papurau J. W. Jones.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844052

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; reolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ionawr 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Gweithiau Barddonol Bryfdir; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986);

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau Bryfdir.