Fonds GB 0210 DJWILL - Papurau D. J. Williams, Abergwaun

Identity area

Reference code

GB 0210 DJWILL

Title

Papurau D. J. Williams, Abergwaun

Date(s)

  • 1810-1969 (gyda bylchau) (crynhowyd 1908-1969) (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

0.521 metrau ciwbig (47 bocs).

Context area

Name of creator

Biographical history

Yr oedd D. J. Williams (1885-1970), Abergwaun, yn llenor a chenedlaetholwr.

Ganwyd David John Williams ar 26 Mehefin 1885 yn ffermdy Penrhiw Fawr ym mhlwyf Llansawel, yn fab i John a Sarah Williams (née Morgans), ac yn 1891 symudodd y teulu i Abernant, Rhydcymerau.

Mynychodd Ysgol Gynradd Rhydcymerau, 1891-1898. Rhwng 1902 a 1906 bu D. J. Williams yn gweithio fel glöwr yn Ferndale, Cwm Rhondda; Y Betws, Rhydaman; a Blaendulais. Cyn hynny bu'n gweithio ar y tir. Yn 1906 bu'n ddisgybl yn ysgol ragbaratoawl Mr Stephens, Llanybydder, ac yn 1908 fe'i penodwyd yn athro heb drwydded yn Ysgol Llandrillo yn Sir Feirionnydd. Mynychodd Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, o dan Joseph Harry, 1910-1911, ac yn 1911 aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth gan raddio mewn Cymraeg yn 1914, a Saesneg yn 1915. Bu'n allweddol mewn sefydlu cylchgrawn Y Wawr, cylchgrawn Cymraeg cyntaf Prifysgol Cymru ac fe'i penodwyd yn olygydd cyntaf. Enillodd Ysgoloriaeth Meyricke i Goleg yr Iesu, Rhydychen, am ysgrifennu traethawd ar 'The nature of literary creation' gan raddio mewn Saesneg yn 1918. Bu'n dysgu Cymraeg yn Ysgol Lewis Pengam am dri mis yn 1918. Yn 1919 fe'i penodwyd yn athro Saesneg ac Ymarfer Corff yn Ysgol Ramadeg Abergwaun ac yn athro Cymraeg yno o 1937 nes iddo ymddeol yn 1945.

Priododd Jane (Siân) Evans, a oedd yn chwaer i Wil Ifan, ar 24 Rhagfyr 1925, a symud i 49 High Street (a fu gynt yn dafarn y Bristol Trader), Abergwaun, a dyfodd yn fan cyfarfod i ffrindiau lu. Bu'n feirniad cyson ar gystadlaethau rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 yr oedd yn un o feirniaid y fedal ryddiaith. Lluniodd ei feirniadaeth gyntaf tra yng ngharchar Wormwood Scrubs ar gyfer cystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937. Yr oedd yn un o'r tri a fu'n gyfrifol am losgi'r Ysgol Fomio yn Llŷn ac fe'i carcharwyd am naw mis fel canlyniad. Ym mlynyddoedd olaf ei ddyddiau bu'n gefnogwr i ymdrechion Cymdeithas yr Iaith dros hawliau'r Gymraeg.

Bu'n ymwneud â'r Blaid Lafur cyn ymuno â'r Blaid Genedlaethol Gymreig pan ffurfiwyd hi yn 1925. Yn Ysgol Haf Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Abergwaun yn 1964 cafwyd cyfarfod i anrhydeddu D. J. Williams a Siân ei wraig, a darllenodd Waldo Williams ei gywydd mawl iddo.

Bu D. J. Williams yn Ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun, 1920-1928, ac yn Llywydd, 1936-1937, gan gynhyrchu sawl drama. Cafodd ei benodi yn Llywydd Undeb Prifysgolion Cymru yn 1935, ac yn 1957 cyflwynwyd gradd DLitt iddo er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 1965 cafodd ei ethol yn Llywydd yr Academi Gymreig ac yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo wedi'i golygu gan ei gyfaill J. Gwyn Griffiths.

Bu farw D. J. Williams wedi iddo roi anerchiad gwladgarol mewn cyngerdd cysegredig yng Nghapel Rhydcymerau ar 4 Ionawr 1970, ac yno y cynhaliwyd yr angladd. Ar 17 Medi 1977 dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Abernant, Rhydcymerau, gan Cassie Davies a threfnwyd gweithgareddau i'w goffáu, gan gynnwys pererindod o Gaerfyrddin i Rydcymerau gan ieuenctid y sir.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Rhodd gan Mr Meredith Miles, Penybont-ar-Ogwr, nai D. J. Williams, Mai 1970.

Content and structure area

Scope and content

Papurau personol, cyhoeddus a llenyddol D. J. Williams, Abergwaun, 1810-1969, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau teuluol a llythyrau oddi wrth gyfeillion a chyd lenorion; dyddiaduron; a llyfrau coleg. Ceir papurau'n ymwneud â'i ran yn Llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 ac fel aelod allweddol o Blaid Cymru, ynghyd â phapurau ei wraig Siân Wiliams. Ymhlith y rhain ceir llythyrau oddi wrth aelodau o'i theulu, llythyrau a dderbyniodd tra roedd ei gŵr yn y carchar a dyddiaduron. Yn ogystal ceir papurau a grynhowyd ganddo.

Appraisal, destruction and scheduling

Gwaredwyd copïau dyblyg o dystlythyrau D. J. Williams a dyblygion taflenni Plaid Cymru. Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol AFE/2004-05/02.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn annhebygol.

System of arrangement

Trefnwyd ar sail profiant yn LlGC yn bedwar grŵp: papurau personol, papurau cyhoeddus, gweithiau llenyddol a phapurau Siân Williams.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh
  • English

Script of material

Language and script notes

Cymraeg yn bennaf a pheth Saesneg oni nodir yn wahanol. Gweler y disgrifiadau ar y lefelau perthnasol.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r rhestr hon yn LlGC, ynghyd â chopi caled o'r rhestr sy'n cynnwys manylion am gofysgrifau, 1793-1906, hynafiaid D. J. Williams a luniwyd c. 1970.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir casgliad o gofysgrifau teuluol D. J. Williams, 1793-1906, sydd wedi eu rhestru ar wahân i'r papurau hyn, yn LlGC. Ceir 'Tair stori fer' gan D. J. Williams, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935, a beirniadaethau ganddo ar y stori fer ymhlith Archif yr Eisteddfod Genedlaethol, ac adysgrifau o atgofion D. J. Williams ym mhapurau Yr Academi Gymreig: Cynllun Ymchwil (rhif 19). Mae nifer o lythyrau oddi wrtho yn Archif Plaid Cymru yn ymwneud â materion fel y Welsh Nation, a cheir taflen gwasanaeth ei angladd yn M660. Mae ffotograffau yn LlGC, Casgliadau Arbennig. Gweler hefyd ddisgrifiadau lefel cyfres/ffeil.

Related descriptions

Notes area

Note

Mae'r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni D. J. Williams oherwydd ceir papurau a grynhowyd ganddo.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004320114

GEAC system control number

(WlAbNL)0000320114

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Ebrill 2004.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: John Gwyn Griffiths (gol.), D. J. Williams, Abergwaun (Llandysul, 1965); John Gwyn Griffiths, D. J. Williams, 1885-1970 (Bro a bywyd: Caerdydd, 1983); Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970 (Llundain, 1997); William H. Howells, Mynegai Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1990 [?Aberystwyth, 1992]; Tegwyn Jones (gol.), 'Hanes gwych ei filltir sgwâr' (Cyfres Pigion 2000: Llanrwst, 2000); ac eitemau yn yr archif.

Archivist's note

Lluniwyd y rhestr gan Ann Francis Evans.

Accession area