Fonds GB 0210 DEWRYS - Papurau Dewi Emrys

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 DEWRYS

Teitl

Papurau Dewi Emrys

Dyddiad(au)

  • 1936-1960 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.018 metrau ciwbig (2 focs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd David Emrys James ('Dewi Emrys', 1881-1952), llenor a bardd, yng Ngheinewydd, Ceredigion, ond treuliodd ei blentyndod yn sir Benfro. Gweithiodd fel newyddiadurwr cyn mynd yn fyfyriwr i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nowlais, Bwcle, Pontypridd a Llundain. Dychwelodd at newyddiaduraeth yn 1918 a dilyn ffordd o fyw go fohemaidd yn Llundain cyn ymgartrefu yn Nhalgarreg, Ceredigion, yn 1940. Yn 1926 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, a'r Gadair yn 1929, 1930, 1943 a 1948. Bu'n golygu colofn farddol yn Y Cymro rhwng 1936 a 1952. Ei gerdd enwocaf yw 'Pwllderi' a ysgrifennodd yn nhafodiaith Gogledd Penfro.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Mrs Nina Watkins (née Dwynwen James), merch Dewi Emrys; Ynys Wyth; Rhodd; 1989

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Dewi Emrys, 1936-1960, yn cynnwys ei gerddi cyhoeddedig a rhai nas cyhoeddwyd; cerddi a gyflwynwyd ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau eraill; torion o gerddi a luniwyd ar achlysur ei farwolaeth yn 1952; darlithoedd ac anerchiadau; llythyrau yn ymwneud â thysteb iddo; a rhestr o'i lawysgrifau. = Papers of Dewi Emrys, 1936-1960, including his published and unpublished poems; poems entered in National and other eisteddfodau; cuttings of poems written on his death in 1952; lectures and addresses; letters relating to his testimonial; and a list of his manuscripts.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i'r Llyfrgell.

Croniadau

Ni dddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: barddoniaeth; rhyddiaith; gohebiaeth; torion papur newydd; ac amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r furflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1990, tt. 17-21, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844658

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1990; Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986); a Dictionary of Welsh Biography 1941-1970 (Llundain, 2001);

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau Dewi Emrys.