fonds GB 0210 EIFWYN - Papurau Eifion Wyn

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 EIFWYN

Teitl

Papurau Eifion Wyn

Dyddiad(au)

  • 1839-1980 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.095 metrau ciwbig (4 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd y bardd Eliseus Williams (Eifion Wyn, 1867-1926) ym Mhorthmadog, sir Gaernarfon, yn fab i Robert Williams a nai i William Owen. Er iddo gael ond ychydig addysg, bu'n athro am gyfnod yn Ysgol Fwrdd Porthmadog, ac ym Mhentrefoelas, sir Ddinbych. O 1896 tan ei farw bu'n gweithio i Gwmni Llechi Gogledd Cymru ym Mhorthmadog fel clerc a chyfrifydd. Byddai'n pregethu mewn gwahanol gapeli Annibynnol o 1889 ymlaen. Priododd Annie Jones o Aber-erch, Pwllheli, sir Gaernarfon, yn 1907, a chael mab, Peredur Wyn Williams. Cyfansoddodd barddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd, gan ennill mewn amryw eisteddfodau lleol yn ogystal ag yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle bu hefyd yn feirniad. Cyhoeddodd gasgliadau o'i waith yn cynnwys Ieuenctid y Dydd (Caernarfon, 1894), Awdl y Bugail (Porthmadog: W.O. Jones, [c. 1900]), Telynegion Maes a Môr (Caernarfon, 1906) a Tlws y Plant (Llanwrtyd, 1906), llyfr emynau y bu ef yn gyfrifol am y geiriau. Cyhoeddwyd Caniadau'r Allt (Llundain, 1927) ac O Drum i Draeth (Llundain, 1929) ar ôl ei farw. Yn 1919 dyfarnwyd iddo radd MA gan Goleg Prifysgol Cymru, Bangor. Bu farw ym Mhorthmadog ar 13 Hydref 1926 a chladdwyd ef yn Chwilog, sir Gaernarfon. Lluniodd Peredur Wyn Williams gofiant, Eifion Wyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980).

Hanes archifol

Mae'n ymddangos i'r papurau fod ym meddiant ei fab, Peredur Wyn Williams (m. 1979) a'i ŵyr Penri Williams.

Ffynhonnell

Mr Penri Williams, ŵyr Eifion Wyn; Benllech; Pryniad; 1988.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Eifion Wyn yn cynnwys copïau llawysgrif o'i gerddi, 1885-1925, rhai ohonynt wedi eu cyhoeddi yn Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929); ei gyfieithiadau o farddoniaeth a rhyddiaith, 1906-1923; pregethau, emynau a chaneuon, [c.1914]-1921; cerddi gan eraill, 1889-1926; beirniadaethau cystadlaethau eisteddfodol, 1915-1925; llythyrau a gohebiaeth â llenorion, 1894-1926; llythyrau at ei wraig, 1922-1950; cofnodion cofrestru aelodau'r teulu, 1864-1941; tystysgrifau eisteddfodol, 1905-1924; deunydd printiedig,1908-1927; llyfrau, yn cynnwys gwaith gan Eifion Wyn, 1866-1930; dyddiaduron Eifion Wyn, 1919-1920; dyddiaduron ei dad Robert Williams, 1894-1900; a phapurau'n perthyn i'w ŵyr Penri Williams, 1926-[1980]. = Papers of Eifion Wyn comprising manuscript copies of his poems, 1885-1925, some of which were published in Caniadau'r Allt (1927) and O Drum i Draeth (1929); translations by him of poetry and prose, 1906-1923; sermons, hymns and songs, [c. 1914]-1921; translations of his poetry by others, 1907-1924; poems addressed to him, 1919-1921; poems by others, 1889-1926; adjudications of eisteddfod competitions, 1915-1925; letters and correspondence with literary figures, 1894-1926; letters to his wife, 1922-1950; family civil registration records, 1864-1941; eisteddfod certificates, 1905-1924; printed matter, 1908-1927; books, including Eifion Wyn's works, 1866-1930; diaries of Eifion Wyn, 1919-1920, diaries of his father Robert Williams, 1894-1900; and papers belonging to his grandson Penri Williams, 1926-[1980].

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn 11 cyfres: barddoniaeth; emynau a chaneuon; beirniadaethau; pregethau; gohebiaeth; dyddiaduron; tystysgrifau; cardiau coffa; deunydd printiedig; papurau Peredur Wyn Williams; ac amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir papurau pellach yn LlGC, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl yn seiliedig ar gynnwys y fonds.

Nodiadau

Mae papurau teuluol yn rhagddyddio ac yn ôl-ddyddio cyfnod Eifion Wyn.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844128

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Chwefror 2003; diwygiwyd Awst 2005.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Eifion Wyn; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959); Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986).

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau Eifion Wyn.