fonds GB 0210 GWENITH - Papurau Gwenith Gwyn,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 GWENITH

Teitl

Papurau Gwenith Gwyn,

Dyddiad(au)

  • 1750-1947 (crynhowyd [diwedd y 19eg ganrif]-1947) / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.375 metrau ciwbig (9 bocs, 1 parsel, 1 cas, 1 cyfrol); 1 bocs bychan (Awst 2009)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd y Parch. William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn', 1868-1937), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a llên-gwerinwr, ym Mron Ceris, Y Fach-wen, Deiniolen, sir Gaernarfon, a mynychodd gapel ac ysgolion yn Dinorwig. Bangor a Lerpwl. Bu'n brentis i deiliwr cyn cofrestru yn Athrofa'r Bedyddwyr yn Llangollen yn 1890. Ar ôl cael ei ordeinio yn 1892, bu'n weinidog yn Horeb, Penrhyn-coch, Ceredigion, 1892-1894, a phriododd Ethel Hilda Rhys Jones (Hughes, gynt,1875-1930)yn 1894; cawsant ddwy ferch. Fe'i penodwyd wedi hynny yn weinidog Jeriwsalem, Penrhiwceibr, Morgannwg, 1894-1912, Seion, Llansanffraid Glynceiriog, sir Ddinbych, 1912-1923, a Calfaria, Tregatwg, Morgannwg,1923-1937. Oherwydd diwydrwydd Jones ym maes crefydd, llên gwerin a llenyddiaeth, awgrymodd ei wraig 'Gwenith Gwyn' (fel yn y gân werin boblogaidd) fel enw barddol iddo ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberpennar yn 1905, pan urddwyd ef yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Bu'n gaplan anrhydeddus Cymdeithas y Meistri Llechi a Chymdeithas y Chwarelwyr, yn aelod o Gymdeithas Llên gwerin Lloegr a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru, a gwasanaethodd hefyd ar ystod eang o bwyllgorau, yn ymwneud ag eglwys y Bedyddwyr, dirwest, ysgolion a cholegau, lles cymdeithasol, llyfrau a llenyddiaeth, ar hyd ei fywyd, yn ogystal â chyfrannu colofnau wythnosol i'r Barry Herald and Vale of Glamorgan Times a'r Barry and District News. Rhwystrwyd 'Gwenith Gwyn' gan afiechyd rhag astudio am radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Eastern University, Philadelphia, UDA, yn 1933 am ei ymchwil ar 'Clasur y Dorth a'r Cwpan'. Claddwyd ef, gyda'i wraig, ym Merthyr Dyfan, y Barri, Morgannwg, yn 1937.

Hanes archifol

Yr oedd Gwenith Gwyn yn berchen ar tua 7,000 o gyfrolau, a gwerthwyd 5,000 ohonynt ychydig ar ôl ei farwolaeth yn 1937. Cadwyd y rhan fwyaf o'r archif hwn naill ai yn ei ddesg neu mewn cist haearn fawr yng nghartref y teulu yn Llansanffraid Glynceiriog, sir Ddinbych, a throsglwyddwyd yr archif yn 1975 i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Morgannwg, i'w gatalogio a'i gopïo, cyn ei drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffynhonnell

Miss Hawys Nesta Rhys Jones a Mrs Marsia Gwynedd Simpson, merched y Parch. William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn'); Llansanffraid Glynceiriog, sir Ddinbych,; Adnau; 1976. Trowyd yn rodd gan ei ŵyr, Mr E. R. Simpson, Niwbwrch, sir Fôn, yn 1984. Daeth papurau ychwanegol yn rhodd oddi wrth Mr Simpson, Awst 2009

Mr T. M. Bassett; Rhodd; 1984

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau o eiddo, ac yn ymwneud â William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn'), 1750-1947, y cyfan bron yn ei law ei hun, yn cynnwys: nodiadau ar hanes lleol yng Nghymru, enwau lleoedd, llên gwerin, a hynafiaethau (yn cynnwys cryn deunydd, ar ffurf nodiadau, traethodau, anerchiadau, adysgrifiadau, a thorion o'r wasg, ar gymeriadau, traddodiadau, a chymdeithasau hanesyddol, llenyddol a diwydiannol Dyffryn Ceiriog, Morgannwg, Maldwyn, Ceredigion ac Arfon); deunydd crefyddol (pregethau a nodiadau pregethau, traethodau ac anerchiadau ar yr Eglwys Gristnogol ac ar wahanol agweddau ar ei gweinidogaeth; papurau'n delio ag enwad y Bedyddwyr yng Nghymru, yn enwedig ym Morgannwg; nodiadau ar destunau Beiblaidd; nodiadau, anerchiadau coffa, a deunydd bywgraffiadol ar amrywiol gymeriadau crefyddol, Cymry yn bennaf; a geiriadur o dermau Beiblaidd a ddefnyddiwyd yng nghapeli Anghydffurfiol Cymru); cyfansoddiadau llenyddol (yn cynnwys barddoniaeth, storiâu byrion, nofelau, a dramâu, mewn drafft ac yn orffenedig; a darlithoedd, nodiadau a thraethodau ar bynciau llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol, a chymdeithasegol); nodiadau ar anthropoleg, ethnoleg, pensaernïaeth a daeareg, yn cynnwys geiriadur Cymraeg-Saesneg o dermau daearegol; y diwydiant llechi yng Nghymru; deunydd ar ramadeg a statws gwleidyddol yr iaith Gymraeg; nodiadau ar wahanol ieithoedd estron a thafodieithoedd, yn cynnwys iaith y Beibl; deunydd bywgraffyddol yn ymwneud â Gwenith Gwyn a'i wraig, 1885-1937; catalog o lyfrau yn ei lyfrgell; torion o'r wasg,1922-1928; a llyfrau lloffion, yn ogystal ag erthygl papur newydd amdano gan y Parch. W. J. Rhys, Abertawe,1947); ei gopïau o weithiau printiedig, 1750-[20fed ganrif]; a deunydd, printiedig neu fel arall, a ysgrifennwyd gan bobl heblaw Gwenith Gwyn = Papers of and relating to William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn'), 1750-1947, nearly all of which are in his own hand, comprising: notes on Welsh local history, place-names, folk culture, and antiquities (including considerable material, in the form of notes, essays, addresses, transcripts, and press cuttings, on the personalities, traditions, and historical, literary and industrial associations of Dyffryn Ceiriog, Glamorgan, Maldwyn, Ceredigion and Arfon); religious material (sermons and sermon notes, essays and addresses on the Christian Church and on various aspects of its ministry; papers dealing with the Baptist denomination in Wales, particularly in Glamorgan; notes on Biblical texts; notes, in memoriam addresses, and biographical material on various religious personalities, mainly Welsh; and a dictionary of Biblical terms used in Nonconformist chapels in Wales); literary compositions (comprising poetry, short stories, novels, and plays, in both draft and final form; and lectures, notes, and essays on literary, historical, political, and sociological topics); notes on anthropology, ethnology, architecture and geology, including an English-Welsh dictionary of geological terms; the Welsh quarrying industry; material on the grammar and political status of the Welsh language; notes on various foreign languages and dialects, including Biblical tongues; biographical material relating to both Gwenith Gwyn and his wife (including bills and receipts; diaries for 1923, 1936, and 1937; letters received, 1885-1937; a catalogue of books in his library; press cuttings, 1922-1928; and scrap-books, as well as a newspaper article about him by Rev. W. J. Rhys, Swansea, 1947); his copies of printed works, 1750-[20th cent.]; and material, printed or otherwise, written by persons other than Gwenith Gwyn.

Casgliad bychan o bapurau ychwanegol gan gynnwys llyfrau nodiadau. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: diwylliant gwerin; daeareg a chwarelyddiaeth; hanes lleol; Dyffryn Ceiriog, Maldwyn a Cheredigion, Arfon, Bro Morgannwg; llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a chymdeithas; newyddiaduraeth; ysgrifennu creadigol; defnyddiau bywgraffyddol Ethel Hilda Rhys Jones; Gwenith Gwyn - defnyddiau bywgraffyddol; deunydd yn ymwneud ag enwad y Bedyddwyr ac eitemau eraill o natur grefyddol; llawysgrifau llenyddol a hanesyddol; gohebiaeth; deunydd printiedig.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan y teitl blaenorol, Papurau W. R. Jones, 'Gwenith Gwyn'. Ceir mynediad i'r catalog ar lein dan y teitl cyfredol.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Mae copïau o lawer o'r papurau hyn ar gael yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Morgannwg.

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Y teitl blaenorol oedd Papurau W. R. Jones, 'Gwenith Gwyn'.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844272

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau W. R. Jones ('Gwenith Gwyn');

Ardal derbyn