fonds GB 0210 IDWNES - Papurau Idwal Jones,

1915. Ionawr-Mehefin 1916. Gorffennaf-Rhagfyr 1916. Ionawr-Mehefin 1917. Gorffennaf-Rhagfyr 1917. Ionawr 1918-Ionawr 1919. Darnau amrywiol; llythyrau heb ddyddiad a darnau o lythyrau [A/219-24], cyfres o gardiau post [A/...

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 IDWNES

Teitl

Papurau Idwal Jones,

Dyddiad(au)

  • 1915-1957 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.045 metrau ciwbig (5 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Idwal Jones (1895-1937) yn athro ysgol, digrifwr, bardd a dramodydd. Fe'i ganwyd ac addysgwyd yn Llanbedr Pont Steffan, yn yr ysgol elfennol, 1900-1908, a Choleg Dewi Sant, 1909-1911. Ar ôl gwasanaethu yn Affrica yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg yn 1922. Wedi hynny bu'n athro ym Mhont ar fynach, Ceredigion, ac yn yr Adran Efrydiau Allanol yn Aberystwyth, 1928-1932. Ysgrifennodd ddramâu a sioeau cerdd gan gynnwys Gwrid y Wawr(1921), P'un (1927), Tibit y Popty (1927) and Yr Anfarwol Ifan Harris (1928), a sgriptiau radio i'r BBC. Cyfrannodd at amrywiol gylchgronau a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi a pharodïau: Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill (Llandysul, 1934) a Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath (Llandysul, 1937). Bu farw 18 Mai 1937. Cyhoeddodd D. Gwenallt Jones cofiant iddo, Cofiant Idwal Jones (Aberystwyth).

Hanes archifol

Cadwyd llawer o'r llythyrau gan ei chwaer, Miss Olwen Jones, a etifeddodd y papurau hefyd, yn ôl pob tebyg, ar ei farwolaeth.

Ffynhonnell

Miss Olwen Jones, chwaer Idwal Jones; Aberystwyth; Rhodd; 1959

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Llythyrau, 1915-1936, yn bennaf at ei deulu tra bu'n gwasanaethu yn y fyddin, 1915-1919; teipysgrifau a llawysgrifau o'i ddramâu a sgriptiau radio, 1920-1936, a thorion papur newydd o adolygiadau, 1926-1940; barddoniaeth, caneuon, parodïau, rhyddiaith a deunydd arall, 1924-1932; copi teipysgrif o 'Ann y Wernolau',drama gan ei fam, Mrs Teifi Jones, 1921; a deunydd amrywiol a ychwanegwyd gan D. Gwenallt Jones tra bu'n ymchwilio ar gyfer Cofiant Idwal Jones, 1934-1957. = Letters, 1915-1936, mainly to his family whilst serving in the army, 1915-1919; typescripts and manuscripts of plays and radio scripts, 1920-1936, and newspaper cuttings of reviews, 1926-1940; poetry, songs, parodies, prose and other material, 1924-1932; a typescript copy of 'Ann y Wernolau', a play by his mother, Mrs Teifi Jones, 1921; and miscellaneous material added by D. Gwenallt Jones while researching <i>Cofiant Idwal Jones</i>, 1934-1957.

Derbyniwyd bocs ychwanegol o bapurau gan Mrs Eirain Rees (nee Jones), Medi 2008. Mae'r grŵp yn parhau heb ei gatalogio.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; sgriptiau ac adolygiadau; barddoniaeth a rhyddiaith; amrywiol; ac ychwanegiadau diweddar.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir papurau pellach yn ymwneud ag Idwal Jones ym Mhapurau Gwenallt a Phapurau Dai Williams (Tregaron), yn ddau gasgliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

Gwnaeth Gwenallt ddefnydd helaeth o'r archif wrth ymchwilio ei gofiant, Cofiant Idwal Jones.

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae ychydig o ddeunydd a ychwanegwyd gan Gwenallt yn ôlddyddio marwolaeth Idwal Jones.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844242

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Idwal Jones; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959);

Ardal derbyn