Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1888-1985 (crynhowyd [1924]-1985) (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.09 metrau ciwbig (11 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd John Tysul Jones (1902-1986), o Landysul, Ceredigion, yn brifathro ysgol. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Llandysul, graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1923, a derbyniodd MA yn 1959. Ymysg ei gyfeillion yn Aberystwyth yr oedd Waldo Williams (1904-1971) ac Idwal Jones (1895-1937). Bu'n athro Cymraeg ym Merthyr Tudful, sir Forgannwg, ac yn Abertawe, yn bennaeth adran yn Llandysul, ac yna'n brifathro Ysgol Uwchradd Fodern Henllan ac Ysgol Uwchradd Castell Newydd Emlyn, sir Gaerfyrddin, [1957]-1967. Priododd Mair Harford Evans o sir Gaerfyrddin, a chawsant un ferch. Bu farw ym Mai 1986. Bu'n olygydd y gyfrol flynyddol, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (Llandysul, [1969]-[1976], a chyfrol o erthyglau'r Athro Evan James Williams (Llandysul,1971). Ef oedd golygydd Ar Fanc Sion Cwilt (Llandysul,1972) gan Sarnicol (perthynas iddo). Yr oedd Thomas Jacob Thomas (Sarnicol,1873-1945) yn athro ysgol, awdur a bardd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Mrs Mair Tysul Jones; Llandysul; Rhodd; 1986
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llawysgrifau a phapurau eraill a grynhowyd ac a gasglwyd gan J. Tysul Jones, yn cynnwys llythyrau,1924-1985; papurau ymchwil ar gyfer astudiaeth destunol a gramadegol o Hystoria Lucidar, ynghyd â geirfa lawn, ar gyfer ei draethawd MA, 1958; deunydd yn ymwneud â hanes Llandysul a'r cylch, 1888-[1985]; llawysgrifau o ddeunydd a ysgrifennwyd neu a gyfieithwyd ganddo,1936-1970; torion papur ynglŷn â J. Tysul Jones ac eraill,1912-1971; nodiadau a deunydd arall, 1926-1970, ynglŷn ag Idwal Jones, Waldo Williams, Ifan Jones, ac unigolion o ardal Llandysul; llawysgrif gan neu'n ymwneud â Sarnicol,1889-[1975], yn cynnwys cerddi yn ei law, [1944], copi yn ei law o'i gyfrol Storiau ar Gân (Dinbych, 1936), 1936-1938, adysgrifau a thorion papur newydd o'i waith, 1907-[1975], llythyrau at J. Tysul Jones ynghylch Sarnicol,1947-1973, cyfieithiadau llawysgrif o waith Sarnicol,[1935], a nodiadau ar Sarnicol gan J. Tysul Jones, [1972]. = Manuscripts and other papers accumulated and collected by J. Tysul Jones, including letters, 1924-1985; research papers for a textual and grammatical study of Hystoria Lucidar, with a full vocabulary, for his MA thesis, 1958; material relating to the history of the Llandysul area, 1888-[1985]; manuscripts of works written or translated by him, 1936-1970; newspaper cuttings relating to J. Tysul Jones and others, 1912-1971; notes and other material, 1926-1970, relating to Idwal Jones, Waldo Williams, Ifan Jones, and individuals from the Llandysul area; manuscripts of and relating to Sarnicol, 1889-[1975], including autograph poems, [1944], an annotated copy of his Storiau ar Gân (Denbigh, 1936), 1936-1938, transcripts and newspaper cuttings of his works, 1907-[1975], letters to J. Tysul Jones concerning Sarnicol, 1947-1973, manuscript translations of Sarnicol's work, [1935], and notes on Sarnicol by J. Tysul Jones, [1972].
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: deunydd personol; hanes Llandysul; deunydd bywgraffyddol; llawysgrifau Sarnicol; papurau Ifan Jones; llyfrau lloffion a llyfrau nodiadau.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1987, tt. 64-68, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r archif yn cynnwys deunydd cynharach a gasglwyd gan J. Tysul Jones.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986 -- Archives. (Pwnc)
- Jones, Idwal, 1895-1937. (Pwnc)
- Williams, Waldo, 1904-1971 (Pwnc)
- Sarnicol, 1873-1945. (Pwnc)
- Jones, Ifan. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Tachwedd 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrt lunio'r rhestr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mân Restri a Chrynodebau 1987, Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); LlGC, Mynegai i Ysgrifau Coffa (1986);