Fonds GB 0210 JWJNES - Papurau J. W. Jones

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 JWJNES

Teitl

Papurau J. W. Jones

Dyddiad(au)

  • 1759-1954 (crynhowyd [1920au cynnar?]-1954) (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

1.292 metrau ciwbig (49 bocs, 15 cyfrol)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd John William Jones (1883-1945) yn awdur, bardd gwerin, cyhoeddwr a chasglwr. Ganwyd yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, sir Feirionnydd, ar 5 Mawrth 1883, yn fab i David Jones (?1848-1922), saer a oedd yn barddoni dan yr enw 'Glan Barlwyd'. Mynychodd Ysgol Gynradd Glan-y-pwll ac Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog. Aeth i weithio yn chwarel Oakley, Blaenau Ffestiniog, yn bedair ar ddeg oed, a bu yno am 53 mlynedd. Fel bardd, cyfrannai'n gyson i amryw o bapurau wythnosol Gymraeg a chyfnodolion. O 1940 ymlaen cyfrannodd golofn wythnosol boblogaidd o'r enw 'Y Fainc Sglodion' i'r Cymro. Golygodd a chyhoeddodd waith beirdd eraill oedd yn gysylltiedig â Blaenau Ffestiniog gan gynnwys: Ap Alun Mabon, Gwrid y Machlud (Blaenau Ffestiniog, 1941), Ioan Brothen, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942), Gwilym Deudraeth, Yr Awen Barod (Llandysul, 1943), Rolant Wyn, Dwr y Ffynnon (Blaenau Ffestiniog, 1949), a Caneuon R. R. Morris (Lerpwl, 1951).

Hanes archifol

Daeth papurau'r beirdd canlynol i feddiant J. W. Jones: Williams William Thomas Edwards ('Gwilym Deudraeth', 1863-1940), Robert Owen Hughes ('Elfyn', 1858-1919), Y Parchedig Richard Roberts Morris (1852-1935), Y Parchedig Owen Griffith Owen ('Alafon', 1847-1916), Y Parchedig William Griffith Owen ('Llifon', 1857-1922), Dr Robert Roberts ('Isallt', 1839-1914), Evan Williams ('Glyn Myfyr', ?1866-1937), John Daniel Davies (1874-1948), ei dad, David Jones ('Glan Barlwyd', ?1848-1922) a Thomas Gwynn Jones (1871-1949).

Ffynhonnell

J. W. Jones; Blaenau Ffestiniog; Rhoddion; 1926-1954.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Gohebiaeth, barddoniaeth, rhyddiaith a phapurau teuluol, yn ymwneud â J. W. Jones, 1878-1954, a'i dad, 'Glan Barlwyd', 1866-1917; deunydd a gasglwyd gan J. W. Jones yn ymnweud ag unigolion a sefydliadau yn ardal Blaenau Ffestiniog, gan gynnwys gohebiaeth, barddoniaeth a phapurau eraill o eiddo 'Gwilym Deudraeth', 1917-1939, 'Elfyn', 1874-1917, Y Parch. R. R. Morris, 1883-1933, 'Alafon', 1875-1915, 'Llifon', 1899-1916, 'Isallt', 1887-1913, a 'Glyn Myfyr', 1893-1937; llythyrau at John Daniel Davies yn rhinwedd ei swydd fel golygydd Y Rhedegydd, 1930-1942; barddoniaeth a phapurau eraill o eiddo T. Gwynn Jones, 1910-1944; barddoniaeth, [1840]-1940, gan amryw feirdd, yn cynnwys Hedd Wyn ac R. Williams Parry; deunydd rhyddiaith amrywiol, peth ohono wedi'i gyhoeddi yn Y Drysorfa ac yn Y Rhedegydd, 1879-1954; llawysgrifau cerddorol, 1876-[c. 1934]; beirniadaethau eisteddfodol, 1870-1939; llyfrau lloffion yn cynnwys torion o'r wasg, [c. 1879]-1940; dyddiaduron, 1864-1935; cofnodion chwareli llechi Blaenau Ffestiniog, 1868-1951; amryw gyfrifon a llyfrau cyfrifon yn ymwneud â gwahanol fusnesau a sefydliadau, 1784-1932; cofnodion yn ymwneud ag eglwysi'r Methodistiaid Calfinaidd, 1840-1951, gan gynnwys rhai Bethel, Tanygrisiau, [1840x1945]; pregethau a nodiadau crefyddol,1846-1952; deunydd printiedig yn cynnwys effemera etholiadol, marwnadau, baledi, carolau ac emynau, 1820-1948; a gweithredoedd a dogfennau yn ymwneud â siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Dinbych, 1759-1947. = Correspondence, poetry, prose and family papers, relating to J. W. Jones, 1878-1954, and to his father, 'Glan Barlwyd', 1866-1917; material collected by J. W. Jones relating to individuals and organizations in the Blaenau Ffestiniog area, including correspondence, poetry and other papers of 'Gwilym Deudraeth', 1917-1939, 'Elfyn', 1874-1917, Rev. R. R. Morris, 1883-1933, 'Alafon', 1875-1915, 'Llifon', 1899-1916, 'Isallt', 1887-1913, and 'Glyn Myfyr', 1893-1937; letters to John Daniel Davies as editor of Y Rhedegydd, 1930-1942; poetry and other papers of T. Gwynn Jones, 1910-1944; poetry, [1840]-1940, by various poets, including Hedd Wyn and R. Williams Parry; various prose material, some of which was published in Y Drysorfa and Y Rhedegydd, 1879-1954; musical manuscripts, 1876-[c. 1934]; eisteddfod adjudications, 1870-1939; scrapbooks containing press cuttings, [c. 1879]-1940; diaries, 1864-1935; records of Blaenau Ffestiniog slate quarries, 1868-1951; various accounts and account books relating to various trades and organisations, 1784-1932; records relating to Calvinistic Methodist churches, 1840-1951, including those of Bethel, Tanygrisiau, [1840x1945]; sermons and religious notes, 1846-1952; printed material including electoral ephemera, elegies, ballads, carols and hymns, 1820-1948; and deeds and documents relating to Caernarfonshire, Merionethshire and Denbighshire, 1759-1947.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau John William Jones; 'Gwilym Deudraeth'; 'Elfyn'; Y Parch. Richard Robert Morris; 'Alafon'; 'Llifon'; 'Isallt'; 'Glyn Myfyr'; John Daniel Davies; 'Glan Barlwyd'; Thomas Gwynn Jones; llythyrau amrywiol; barddoniaeth; rhyddiaith; cerddoriaeth; beirniadaethau eisteddfodol; llyfrau lloffion; dyddiaduron; deunydd yn ymwneud â chwareli; cyfrifon; cofnodion etc, y Methodistiaid Calfinaidd; pregethau etc.; deunydd printiedig; dogfennau; ac amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnod'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crewyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844255

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o bapurau J. W. Jones; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959); Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001).

Ardal derbyn