Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1874-1983 (crynhowyd [20fed ganrif cynnar]-1983) / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.086 metrau ciwbig (3 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd y Parch Lewis Valentine (1893-1986), gweinidog y Bedyddwyr, heddychwr a chenedlaetholwr, yn Llanddulas, sir Ddinbych. Bu'n astudio Cymraeg ac ieithoedd Semitig yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd waith ar destunau Hebraeg o'r Hen Destament. Gwasanaethodd Valentine fel cynorthwywr meddygol gyda'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn dilyn cyrch nwy yn 1917 symudodd i Blackpool, swydd Gaerhirfryn, yn 1918, a dychwelodd i'r coleg ym Mangor yn 1919. Yn 1921 ordeiniwyd ef yn weinidog capel Tabernacl, Llandudno, sir Gaernarfon, a bu yno tan 1947, pan symudodd i gapel Seion, Ponciau, Rhosllannerchrugog, sir Ddinbych, lle safodd tan ei ymddeoliad yn 1970. Bu farw yn 1986. Yr oedd Lewis Valentine yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru yn ddiweddarach), a ffurfiwyd ym Mhwllheli yn 1925, a safodd fel ymgeisydd cyntaf y blaid, yn etholaeth Caernarfon, yn 1929. Ef hefyd oedd ei Llywydd cyntaf, a'r Is-Lywydd yn 1936 pan gymerodd ran, gyda Saunders Lewis (1893-1985) a D. J. Williams, mewn gweithred symbolaidd o losgi Ysgol Fomio i Beilotiaid y Llu Awyr Brenhinol a oedd newydd ei sefydlu ym Mhenyberth, ger Pwllheli, Llŷn, sir Gaernarfon, fel protest heddychlon, cenedlaetholgar ac amgylcheddol. Ildiodd y protestwyr i'r heddlu, gan amddiffyn ei gweithredu ar dir moesol. Symudwyd yr achos i'r Old Bailey, wedi i reithwyr yng Nghaernarfon fethu â chytuno ar ddedfryd. Dedfrydwyd y tri i naw mis o garchar; cawsant gefnogaeth a hysbysrwydd eang. Yr oedd yn ffrind i Lewis, Williams a Kate Roberts (1891-1985) ar hyd ei oes. Yn 1983, golygodd John Emyr y gyfrol 'Lewis Valentine yn cofio'. Yn 1988, ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddwyd 'Dyddiadur milwr a gweithiau eraill' (Llandysul), sef hanes ei brofiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Lewis Valentine; Pryniad; Medi 1984
Lewis Valentine, trwy law Dr R. Geraint Gruffydd; Rhodd; Awst 1985
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau'r Parch. Lewis Valentine, 1874-1983, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1916-1983; llythyrau oddi wrth Saunders Lewis, [1926]-1983; llythyrau oddi wrth D. J. Williams, 1930-1969; llythyrau oddi wrth Kate Roberts, 1937-1976; llythyrau'n ymwneud â'r Ysgol Fomio a charchariad Lewis Valentine, 1936-1937; dyddiaduron rhyfel,1916-1919; anerchiadau gan Valentine ac eraill, 1930-1972; a phapurau amrywiol a gasglwyd gan Valentine, 1874-1980. = Papers of the Rev. Lewis Valentine, 1874-1983, comprising general correspondence, 1916-1983; letters from Saunders Lewis, [1926]-1983; letters from D. J. Williams, 1930-1969; letters from Kate Roberts, 1936-1976; letters relating to the Bombing School and Lewis Valentine's imprisonment, 1936-1937; war diaries, 1916-1919; addresses by Valentine and others, 1930-1972; and miscelleneous papers collected by Valentine, 1874-1980.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i'r Llyfrgell.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; dyddiaduron; anerchiadau, etc., sgriptiau; ac amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1985, tt. 128-130 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Valentine, Lewis -- Archives (Pwnc)
- Lewis, Saunders, 1893-1985 (Pwnc)
- Roberts, Kate, 1891-1985 (Pwnc)
- Williams, D. J. (David John), 1885-1970 (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Mân Restri a Chrynodebau 1985;