Fonds GB 0210 OLEWOWAIN - Papurau O. Llew Owain

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 OLEWOWAIN

Teitl

Papurau O. Llew Owain

Dyddiad(au)

  • 1785-[c. 1955] (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.047 metrau ciwbig (3 bocs) a 45 cyfrol.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Owain Llewelyn Owain (1878-1956), o Gaernarfon, yn newyddiadurwr ac awdur. Bu'n gweithio yn y chwareli lleol am gyfnod cyn cychwyn ar ei yrfa gyda Y Genedl Gymreig fel gohebydd i ddechrau, ac wedyn fel golygydd. Bu hefyd yn athro cerddoriaeth ac yn feirniad eisteddfodol yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon. Cyhoeddodd amryw o gofiannau pwysig yn cynnwys un i T. E. Ellis, 1915, a llyfrau eraill ar fywyd llenyddol Caernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol, Hanes y Ddrama yng Nghymru, 1850-1943, yn 1948.

Hanes archifol

Ffynhonnell

David E. Hughes; Llandudno; Pryniad; 1987, 1989, 1998
NLW MSS 23612-56; David E. Hughes; Llandudno; Pryniad; Ionawr a Mawrth 1997; B1997/3, B1997/13.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau O. Llew Owain, 1785-[c. 1955], yn cynnwys llythyrau a phapurau yn ymwneud yn bennaf ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd, a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, 1901-1951; ceisiadau am swyddi, 1939-1947; gweithiau Owain Llew Owain, 1912-1951; deunydd ar gyfer Y Genedl, 1924-1939; llythyrau, llyfrynnau a thorion amrywiol yn ymwneud ag agweddau ar fywyd a llenyddiaeth Gogledd Cymru, 1858-1950; llyfrau lloffion o dorion papur newydd, 1865-1940, yn cynnwys caneuon etholiadol, am David Lloyd George yn bennaf, teyrngedau i Syr John Morris Jones, torion o Y Genedl ac eitemau yn ymwneud â barddoniaeth Gymraeg; llawysgrifau a phapurau, 1785-[c.1955], o lyfrgell O. Llew Owain, yn cynnwys traethodau eisteddfodol ac arall, llawysgrifau o ddiddordeb i sir Gaernarfon a gohebiaeth. = Papers of O. Llew Owain, 1785-[c. 1955], comprising letters and papers mainly concerning Eisteddfod Genedlaethol Cymru (National Eisteddfod), Eisteddfod yr Urdd, and Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, 1901-1954; job applications, 1939-1947; works of Owain Llew Owain, 1912-1951; material for Y Genedl, 1924-1939; miscellaneous letters, booklets and cuttings concerning aspects of North Wales life and literature, 1858-1950; scrap books of press cuttings, 1865-1940, including election songs mainly about David Lloyd George, tributes to Sir John Morris Jones, cuttings from Y Genedl and items relating to Welsh poetry; manuscripts and papers, 1785-[c. 1955], from the library of O. Llew Owain, including eisteddfod and other essays, manuscripts of Caernarfonshire interest and correspondence.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cadwyd yr holl gofnodion.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau Owain Llew Owain, wedi eu rhannu yn ohebiaeth, gwaith Owain Llew Owain, deunydd ar gyfer Y Genedl, llyfrau lloffion a rhai amrywiol; a NLW MSS 23612-56.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copïau caled o'r catalogau ar gael yn Gymraeg ym Mân Restri a Chrynodebau 1987, tt. 83-87,1990, t. 63, ac 1999, t. 62, ac yn Saesneg yn Handlist of Manuscripts at the National Library of Wales. Ceir mynediad i'r catalogau ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844671

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1987, 1990, 1999; Oxford Companion to the Literature of Wales, gol. gan Meic Stephens (Rhydychen, 1986)

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW.

Ardal derbyn