Fonds - Papurau T. Ifor Rees a J. T. Rees

Identity area

Reference code

Title

Papurau T. Ifor Rees a J. T. Rees

Date(s)

Level of description

Fonds

Extent and medium

31 bocs bach.

Context area

Name of creator

Name of creator

Biographical history

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Mrs Gwenan Rhys Price; Penrhyn-coch, Aberystwyth; Rhodd; Mehefin 2016; 99666522302419.

Content and structure area

Scope and content

Papurau T. Ifor Rees, y diplomydd, cyfieithydd, ac awdur, a phapurau ei dad, J. T. Rees, y cerddor.

Ganed Thomas Ifor Rees yn 1890, yn un o blant J. T. Rees ac Elizabeth, Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn Ysgol Rhydypennau ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1910. Dechreuodd ei yrfa fel diplomydd pan benodwyd ef yn Is-Gonswl Gweithredol ym Marseilles, Ffrainc yn 1913, ac yna yn Chargé d'Affaires yn Caracas, Feneswela yn 1914. Ar ôl treulio cyfnodau yn Managua, Nicaragwa; Bilbao, Sbaen; Mecsico; Havana, Ciwba; Milan, yr Eidal, fe'i penodwyd yn Weinidog Prydeinig yn Bolifia yn 1943 ac yn Llysgennad Ei Fawrhydi yn 1947 tan ei ymddeoliad yn 1950. Ef oedd Llysgennad cyntaf Prydain yn Bolifia. Bu farw yn 1977.
Mae ei bapurau yn cynnwys yn bennaf gohebiaeth deuluol a phersonol, gyda rhai yn ymwneud â'i yrfa a drafftiau o'i weithiau.

Ganed John Thomas Rees yn 1857 yng Nghwmgiedd, Ystradgynlais, sir Frycheiniog. Treuliodd ychydig o amser yn Aberystwyth o dan hyfforddiant y Dr Joseph Parry, cyn graddio gyda Mus.Bac. ym Mhrifysgol Toronto. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, bu'n athro, yn arweinydd corau ac yn dysgu yng Ngholeg Aberystwyth.

Appraisal, destruction and scheduling

Trosglwyddwyd casgliad helaeth o ffotograffau T. Ifor Rees i'r Isadran Graffeg, Sgrin a Sain, LlGC.
Trosglwyddwyd 2 fap i'r Isadran Graffeg, Sgrin a Sain, LlGC, Chwefror 2019.

Accruals

System of arrangement

Trefnwyd yr archif yn dri grŵp yn LlGC: papurau T. Ifor Rees, papurau J. T. Rees, a phapurau teuluol.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir adroddiad teipysgrif gan T. Ifor Rees o'i ymweliad â Mecsico yn NLW ex 1478; llythyrau, 1955-1962, at T. Ifor Rees parthed cyhoeddi'r Oxford Book of Welsh Verse yn NLW MS 20080C; ynghyd â llythyrau a anfonwyd at T. Ifor Rees, teipysgrif gyda chywiriadau a newidiadau yn llaw T. Ifor Rees o 'Catrin', sef ei gyfathasiad o'r gwaith 'A Welsh Witch' gan Allen Raine, a phapurau eraill yn rhan o NLW ex 2930 [Wyn Thomas Papers].

Cyflwynwyd 67 cyfrol o lawysgrifau cerddorol J. T. Rees i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan ei fab, T. Ifor Rees yn 1950 a 1968. Fe'u dynodwyd yn NLW MSS 16841-50, 19923-47, 20974-76.

Related descriptions

Notes area

Note

Dychwelwyd papurau ariannol, 1925-1976 ac anfonebau a derbynebau, 1949-1976 i'r rhoddwr; Ebrill 2018.

Alternative identifier(s)

Alma system control number

99666522302419

Access points

Subject access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related people and organizations

Related genres

Related places