Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
31 bocs bach.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Hanes archifol
Ffynhonnell
Mrs Gwenan Rhys Price; Penrhyn-coch, Aberystwyth; Rhodd; Mehefin 2016; 99666522302419.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau T. Ifor Rees, y diplomydd, cyfieithydd, ac awdur, a phapurau ei dad, J. T. Rees, y cerddor.
Ganed Thomas Ifor Rees yn 1890, yn un o blant J. T. Rees ac Elizabeth, Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn Ysgol Rhydypennau ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1910. Dechreuodd ei yrfa fel diplomydd pan benodwyd ef yn Is-Gonswl Gweithredol ym Marseilles, Ffrainc yn 1913, ac yna yn Chargé d'Affaires yn Caracas, Feneswela yn 1914. Ar ôl treulio cyfnodau yn Managua, Nicaragwa; Bilbao, Sbaen; Mecsico; Havana, Ciwba; Milan, yr Eidal, fe'i penodwyd yn Weinidog Prydeinig yn Bolifia yn 1943 ac yn Llysgennad Ei Fawrhydi yn 1947 tan ei ymddeoliad yn 1950. Ef oedd Llysgennad cyntaf Prydain yn Bolifia. Bu farw yn 1977.
Mae ei bapurau yn cynnwys yn bennaf gohebiaeth deuluol a phersonol, gyda rhai yn ymwneud â'i yrfa a drafftiau o'i weithiau.
Ganed John Thomas Rees yn 1857 yng Nghwmgiedd, Ystradgynlais, sir Frycheiniog. Treuliodd ychydig o amser yn Aberystwyth o dan hyfforddiant y Dr Joseph Parry, cyn graddio gyda Mus.Bac. ym Mhrifysgol Toronto. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, bu'n athro, yn arweinydd corau ac yn dysgu yng Ngholeg Aberystwyth.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Trosglwyddwyd casgliad helaeth o ffotograffau T. Ifor Rees i'r Isadran Graffeg, Sgrin a Sain, LlGC.
Trosglwyddwyd 2 fap i'r Isadran Graffeg, Sgrin a Sain, LlGC, Chwefror 2019.
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yr archif yn dri grŵp yn LlGC: papurau T. Ifor Rees, papurau J. T. Rees, a phapurau teuluol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Dychwelwyd papurau ariannol, 1925-1976 ac anfonebau a derbynebau, 1949-1976 i'r rhoddwr; Ebrill 2018.