Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1621-1985 (crynhowyd 1871-1985) (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.857 metrau ciwbig (89 bocs, 4 cyfrol, 1 ffolder, 1 rholyn)
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.
Archival history
Ar ôl marwolaeth T. Gwynn Jones yn 1949 arhosodd yn rhan fwyaf o'i bapurau yng ngofal ei deulu hyd nes iddynt gael eu cyflwyno'n rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Daeth rhai papurau eraill i ddwylo David Jenkins yng nghwrs ei ymchwil bywgraffyddol, a chyflwynwyd y rhain a phapurau eraill yn rhodd gan Emrys Wyn Jones a'i wraig (nifer ohonynt yn ddim ond copïau a wnaethpwyd gan Francis Wynn Jones o weithiau T. Gwynn Jones). Mae'n ymddangos iddynt ddod i'w feddiant naill ai trwy'r cyswllt hwn neu drwy gysylltiadau teuluol.
Immediate source of acquisition or transfer
Cyflwynwyd mewn sawl grŵp: gan T. Gwynn Jones yn 1943; gan ei weddw, Margaret Jones, Aberystwyth, sir Aberteifi, rhwng 1960 a 1962; gan eu mab Arthur ap Gwynn, Eglwysfach, Ceredigion, yn 1973 a 1986; gan Gwen Davies, Lerpwl, nith i Margaret Jones, trwy law Arthur ap Gwynn yn 1973; gan Emrys Wynn Jones, Aberystwyth, a'i wraig, yn 1973; gan Eirlys Jones, Llanelidan, Rhuthun, sir Ddinbych, nith i T. Gwynn Jones, yn 1974; a chan David Jenkins, Penrhyn-coch, Ceredigion, yn 1993.
D292: Mrs Eluned Morris; Rhodd; Rhagfyr 1981.
E1-83: Mr Emrys Wynn Jones, ŵyr T. Gwynn Jones; Aberystwyth; Rhodd; Ionawr 2000; A2000/6.
D292a: Siop Lyfrau'r Hen Bost; Blaenau Ffestiniog; Pryniad (gydag NLW MS 24058A); Mai 2014; 006740780.
Content and structure area
Scope and content
Papurau T. Gwynn Jones, 1871-1949, yn cynnwys: gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth amrywiaeth eang o ffigurau llenyddol ac academaidd; cerddi a phapurau llenyddol eraill, yn cynnwys adysgrifau ac arnodiadau gan T. Gwynn Jones o waith gan awduron canoloesol a modern, a deunydd, [17 gan.]-[20 gan.], a gasglwyd ganddo neu a roddwyd iddo; papurau academaidd, yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei lyfrau ac erthyglau, cofiannau a mynegeion i'w waith ei hun a gwaith pobl eraill, a nodiadau bywgraffyddol ar lawer o ffigurau llenyddol; cyfieithiadau; darlithoedd ac anerchiadau, yn cynnwys nodiadau; sgriptiau radio; adolygiadau llyfrau; gwahanlithiau; torion o'r wasg; dramâu, beirniadaethau eisteddfodol, deunydd yn ymwneud â'i Dysteb yn 1944; llongyfarchiadau ar ei CBE yn 1937; a dyddiaduron, 1927-1947, a phersonalia arall; ceir hefyd papurau teuluol, 1621-1871, gan gynnwys gohebiaeth, dau Feibl teuluol, a llythyrau, 1949-1985, at deulu Jones, yn ymwneud yn enwedig â'i fywyd a'i waith, a chofiannau iddo. = Papers of T. Gwynn Jones, 1871-1949, comprising: correspondence, including letters from a wide variety of literary and academic figures; poems and other literary papers, including transcripts and annotations by T. Gwynn Jones of works by medieval and modern authors, and material, [17 cent.]-[20 cent.], collected by him or given to him; academic papers, including notes for his books and articles, bibliographies and indexes for his own and other works, and biographical notes on many literary figures; translations; lectures and addresses, including notes; radio scripts; book reviews; offprints; press cuttings; plays; eisteddfod adjudications; material relating to his Testimonial in 1944; congratulations on his CBE in 1937; and diaries, 1927-1947, and other personalia; also included are family papers, 1621-1871, including correspondence, two family bibles, and letters, 1949-1985, to Jones's family, especially concerning his life and work, and memorials to him.
Appraisal, destruction and scheduling
Rhoddodd T. Gwynn Jones rhyddid llwyr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyda golwg ar waredu ei rhodd gyntaf, ac awgrymodd yn benodol y gellid symud rhai o'i lyfrau at ddefnydd sanatoria Cymru ac ysbytai y diciâu, aelodau o luoedd Ei Mawrhydi, a sefydliadau addysg yng Nghymru. Ni waredwyd dim o'i bapurau personol yn y modd hwn..
Accruals
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System of arrangement
Trefnwyd mewn sawl ffordd: fesul pwnc, ffurf ac amseryddiaeth yn ôl dyddiad y derbyniad.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- German
- Welsh
- French
- Irish
- Breton
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg, Gwyddeleg, Almaeneg, Ffrangeg, Llydaweg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; mae'r gyfrol gyntaf yn Saesneg, a'r chwe gweddill yn Gymraeg.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Publication note
David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973)
Publication note
David Jenkins, Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1984)
Publication note
Tadhg O'Donoghue, Guth on mBreatain: Llais o Gymru (Dulyn, 1912)
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar gynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mawrth 2003.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Thomas Gwynn Jones; Dictionary of Welsh Biography 1941-1970 (Llundain, 2001); Meic Stephens, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986).
Archivist's note
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW.