Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1896-1966, 2019 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.161 metrau ciwbig (9 bocs); 1 bocs bach (Hydref 2022) (0.009 mᶟ)
Context area
Name of creator
Biographical history
Yr oedd y Parch. William Evans ('Wil Ifan', 1883-1968) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor, ac yn Archdderwydd Cymru. Fe'i ganed yn Llanwinio, sir Gaerfyrddin, yn fab i'r Parch. Dan Evans. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Manceinion, Rhydychen. Bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr Annibynwyr yn Nolgellau, sir Feirionnydd, 1906-1909, Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, 1909-1917, a Chaerdydd, Morgannwg, 1917-1925. Dychwelodd i Ben-y-bont ar Ogwr, 1925-1949, a chafodd ei wneud yn Weinidog Emeritws yno am weddill ei fywyd. Cyfansoddodd farddoniaeth a rhyddiaith yn ogystal â sawl drama, yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y radio ac yn ddarlledwr. Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill y Goron ar dair achlysur. Yr oedd yn beirniadau mewn eisteddfodau yn gyson a bu'n Archddrwydd Cymru, 1947-1950. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth mewn nifer o gyfrolau, gan gynnwys, yn Gymraeg, Dros y Byth (Y Fenni, 1913), Plant y Babell (Wrecsam, 1922), Y Winllan Las (Caerdydd, 1936) a Difyr a Dwys (1960); ac yn Saesneg, A Quire of Rhymes (Caerdydd, 1943) a Here and There (1953). Casglwyd rhai o'i ysgrifau a'i erthyglau yn Y Filltir Deg (Abertawe, 1954) a Colofnau Wil Ifan (Llandysul, 1962). Priododd Nesta Wyn o Ddolgellau, Meirionnydd, yn 1910, a chwasant bedwar o blant, Elwyn, Mari, Nest a Brian. Bu farw 16 Rhagfyr 1968.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Parch. William Evans ('Wil Ifan') a'i fab, Mr Elwyn Evans; Llundain; Rhodd; 1960-1966;
Dr Shirley Wynne Vinall (wyres); Reading; Rhodd; Hydref 2022; 99126200702419
Content and structure area
Scope and content
Papurau Wil Ifan, 1896-1982, yn cynnwys llythyrau ato, 1902-1966, ac oddi wrtho at ei deulu, 1915-1966; gweithiau cyhoeddedig a barddoniaeth a rhyddiaith, yn Saesneg yn bennaf, yn cynnwys nodiadau, [1920]-1956; pregethau, 1921-1933; dyddiaduron, 1900-1947; sgriptiau radio, 1952-1963; a chopïau o Celt a olygwyd gan Dan Evans, 1896-1897. = Papers of Wil Ifan, 1896-1982, including letters to him, 1902-1966, and from him to his family, 1915-1966; published works and poetry and prose, mainly in English, including notes, [1920]-1956; sermons, 1921-1933; diaries, 1900-1947; radio scripts, 1952-1963; and copies of Celt, edited by Dan Evans, 1896-1897.
Hefyd yn cynnwys astudiaeth Shirley Wynne Vinall, 2019, wedi ei argraffu a’i rwymo yn ddwy gyfrol, o 'Llyfr yr Achau' gan 'Wil Ifan', yn cynnwys detholiadau o lyfr nodiadau ei thaid ar hanes ei deulu, gwybodaeth am deuluoedd ei fam a’i dad yn Sir Gaerfyrddin, Cwmafan a Sir Aberteifi, a theulu ei wraig Nesta Wyn Edwards, Dolgellau, ynghyd â phennod ychwanegol gan y rhoddwr ar ei yrfa a’i ysgrifau. Ceir hefyd gopi llawysgrif o’r emyn "O Jesu, King most wonderful", a gyfieithwyd gan y Parch. E. Caswall, gyda cherddoriaeth gan B[ertram] J. Orsman, 1946, wedi’i lofnodi a’i gyflwyno gan y cyfansoddwr i’r Parch. W. Evans ('Wil Ifan'). = Also includes a study by Shirley Wynne Vinall, 2019, printed and bound in two volumes, of 'Llyfr yr Achau' by 'Wil Ifan', including extracts from her grandfather’s notebook on his family history, and containing information about his maternal and paternal families in Carmarthenshire, Cwmavon and Cardiganshire, and the family of his wife Nesta Wyn Edwards, Dolgellau, together with an additional chapter by the donor on his career and writings. Also included is a manuscript copy of the hymn "O Jesu, King most wonderful", translated by Rev. E. Caswall, with music by B[ertram] J. Orsman, 1946, signed and presented by the composer to the Rev. W. Evans ('Wil Ifan').
Papurau a roddwyd Hydref 2022: gweler y disgrifiad dan y Gyfres ychwanegol.
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd fesul adnau fel a ganlyn: grŵp 1965 (llythyrau); grŵp 1982 (gohebiaeth; gweithiau llenyddol a nodiadau; pregethau; dyddiaduron; sgriptiau; ac amrywiol; deunydd heb ei gatalogio); rhodd 2022.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Mae copïau caled o 'Restr o Lythyrau at Wil Ifan' a Mân Restri a Chrynodebau, 1983, tt. 61-62, ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol. Maent ar gael ar lein. Mae rhoddion 1960, 1965 a 1966, sydd yn cynnwys rhai o'i weithiau llenyddol pwysicaf, yn parhau heb eu catalogio.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae un eitem, 1982, yn adysgrif gan ei fab, Elwyn.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Place access points
Name access points
- Wil Ifan, 1883-1968 -- Archives. (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Lythyrau at Wil Ifan; LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1983; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); gwefan Canrif y Brifwyl (www.bbc.co.uk/cymru/canrif), edrychwyd 17 Chwefror 2003.
Lluniwyd y disgrifiad ar gyfer papurau ychwanegol Hydref 2022 gan Bethan Ifan, Ebrill 2023, gan ddefnyddio deunydd wrth law a ffwythiannau chwilio arlein.