Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1913-2001(crynhowyd [1949x1973]-2001) / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.105 metrau ciwbig (5 bocs); 1 bocs (Mawrth 2012).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd David Jenkins (1912-2002) yn bumed llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn awdur llyfrau ac erthyglau niferus ar bynciau amrywiol.
Fe'i ganwyd ar 29 Mai 1912 yn fab i Evan Jenkins a Mary (née James), Blaenclydach, Y Rhondda. Roedd ei deulu yn hanu o ardal Penrhyn-coch, Ceredigion. Derbyniodd ei addysg gynradd yn ysgolion Blaenclydach a Threfeurig a'i addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth. Mynychodd Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio yn 1936 yn y Gymraeg. Enillodd radd MA am draethawd ar fywyd a gwaith Huw Morys yn 1948. Yr un flwyddyn priododd Menna Rhys a bu iddynt ddau o blant, Nia ac Emyr.
Fe'i penodwyd yn Geidwad Cynorthwyol yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1939 cyn mynd i ymladd yn y Rhyfel hyd 1945 ac fe'i dyrchafwyd yn uwchgapten yn 1943. Ymunodd â staff Adran Llyfrau Printiedig yn 1949 ac fe'i gwnaed yn Geidwad yn 1957. Cafodd ei ddewis yn Llyfrgellydd yn 1969 gan ymddeol ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Dyfarnwyd y CBE iddo yn 1977 a DLitt Prifysgol Cymru yn 1979. Yn 1999 fe'i hurddwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Cymru.
Yn 1974 derbyniodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru am Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973). Yr oedd ganddo ddiddordeb yn Dafydd ap Gwilym a chyhoeddwyd Bro Dafydd ap Gwilym yn 1992. Cyfrannodd erthyglau i'r Bywgraffiadur, Cydymaith i lenyddiaeth Cymru a'r Dictionary of National Biography a nifer helaeth o gylchgronau eraill megis Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw ar 6 Mawrth 2002 ac ym mis Mai 2002 cyhoeddwyd ei lyfr, A refuge in peace and war, sy'n croniclo hanes y Llyfrgell Genedlaethol hyd 1952, cyfrol y bu'n gweithio arni ers ugain mlynedd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Rhodd gan Mrs Menna Jenkins, Penrhyn-coch, Aberystwyth, gweddw Dr David Jenkins, Mai 2002, a thrwy law Mr Ceris Gruffudd a Dr Brynley F. Roberts yn 2004. Daeth pecyn ychwanegol oddi wrth Emyr Jenkins, mab Dr Jenkins, Mawrth 2012.; 0200207991, 0200403097, 0200403101.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llythyrau, 1959-[1998], yn ymwneud â bywyd cyhoeddus Dr David Jenkins, a gwaith ymchwil, 1913-2001, yn ymwneud â'i gyhoeddiadau Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973) a Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones [Caerdydd, 1984]. Ceir drafftiau teipysgrif hefyd o'i lyfr arfaethedig ar hanes Gwasg Gregynog, [1962]-2001. Cafwyd bocs ychwanegol o bapurau, Mawrth 2012. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto. = Letters, 1959-[1998], relating to David Jenkins's public duties, and research work, 1913-2001, relating to his publications Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Denbigh, 1973) and Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones [Cardiff, 1984]. Typescript drafts of his proposed book on the history of Gregynog Press, [1962]-2001, are also included. A further box of papers, received March 2012, is not yet catalogued.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl bapurau a roddwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC yn dair cyfres: llythyrau; Gwasg Gregynog; a T. Gwynn Jones; ac yn un ffeil, sef papurau amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Dyfalwyd y dyddiadau cynharaf ar sail cerdyn oddi wrth weddw T. Gwynn Jones a dyddiad cyhoeddi Thomas Gwynn Jones: Cofiant.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Awst 2002 a Chwefror 2005.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Who's Who 1897-1996 [CD-ROM]; Yr Angor, Ebrill 2002.