Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Prichard, Caradog, 1904-1980
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Roedd Caradog Prichard (1904-1980) yn fardd a nofelydd o fri. Roedd yn frodor o Fethesda yn sir Gaernarfon a enillodd ei damaid fel newyddiadurwr yng Nghaernarfon, Llanrwst, Caerdydd ac, yn y pen draw, yn Llundain. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio fel newyddiadurwr ar y News Chronicle ac yn ddiweddarach ar y Daily Telegraph lle bu yn Is-olygydd Seneddol am gyfnod maith. Yn 1927, ac yntau yn 23 mlwydd oed, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi, camp a gyflawnodd drachefn y ddwy flynedd ganlynol: Treorci (1928) a Lerpwl (1929). Roedd blas hunangofiannol i bob un o'r tair cerdd. Enillodd Caradog Prichard y Gadair, hefyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Cyhoeddodd tair cyfrol o'i farddoniaeth rhwng 1937 a 1963, a gwelodd argraffiad cyflawn o'i waith barddonol olau dydd yn 1979. Cyhoeddodd nofel bwysig o'r enw Un Nos Ola Leuad yn 1961, sydd yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn glasur ymhlith cynnyrch rhyddiaith Gymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif, a chyfrol o hunangofiant gonest, Afal Drwg Adda, yn 1973. Bu farw ar 25 Chwefror 1980 a'i gladdu ar Ddydd Gŵyl Ddewi ym mynwent Eglwys Coetmor, Bethesda.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
rda
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf