Williams, Waldo, 1904-1971

Identity area

Type of entity

Person

Authorized form of name

Williams, Waldo, 1904-1971

Parallel form(s) of name

Standardized form(s) of name according to other rules

Other form(s) of name

Identifiers for corporate bodies

Description area

Dates of existence

History

Ganed Waldo Goronwy Williams ar 30ain o Fedi 1904, yn fab i'r heddychwr a'r sosialydd John Edwal Williams ac Angharad Williams (née Jones). Ynghyd â'i brodyr a'i chwiorydd, mynychodd Angharad goleg a bu'n athrawes cyn ei phriodas. Er mai Cymro Cymraeg oedd John Edwal, magwyd Angharad yn ddi-Gymraeg yn Lloegr, felly Saesneg oedd iaith aelwyd gynnar Waldo ac ni ddysgodd Gymraeg nes i'r teulu symud ym 1911, pan oedd Waldo'n saith mlwydd oed, i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, lle 'roedd ei dad yn brifathro'r ysgol gynradd yno. Ym 1915, bu i'r teulu symud drachefn pan benodwyd John Edwal yn brifathro Ysgol Brynconin, Llandysilio. Mynychodd Waldo Ysgol Ramadeg Arberth ac yna Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg ym 1926. Yn dilyn hyfforddiant fel athro, bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion o fewn Sir Benfro, yn Ysgol Ramadeg Botwnnog ym Mhen Llŷn o 1942 hyd 1944, ac mewn ysgolion yn Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos ac addysg bellach ar gyfer oedolion, ac yn ddarlithydd gwâdd. Ym 1941, priododd Waldo â Linda Llewellyn, ond bu farw hithau o'r diciâu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Maynooth, Swydd Kildare yn ystod haf 1961, lle dysgodd Wyddeleg yn rhugl. Ac yntau'n heddychwr gydol oes, cofrestrodd Waldo fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, safiad a achosodd wrthdaro rhyngddo a'r awdurdodau. Oherwydd ei wrthwynebiad i Ryfel Corea (1950-1953), gwrthododd dalu ei dreth incwm ac fe'i carcharwyd am ei safiad ar ddechrau 1960. Yn genedlaetholwr a brogarwr, safodd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959. Bu farw Waldo Williams ar yr 20fed o Fai 1971 a'i gladdu yn yr un bedd â'i rieni a'i wraig Linda ym mynwent Capel y Bedyddwyr, Blaenconin, y capel lle priodwyd Waldo a Linda ddeg mlynedd ar hugain ynghynt. Yn ddiweddarach, codwyd coflech i Waldo ar weundir Rhos Fach, ger Mynachlog-ddu. Fe ddylanwadwyd Waldo a'i dad ill dau yn gryf gan yr athronydd a'r bardd sosialaidd Edward Carpenter (1844-1929). Er fod y teulu, mewn enw, yn aelodau o Gapel y Bedyddwyr, nid oedd Waldo, mwy na'i rieni, yn arddel unrhyw grefydd ffurfiol, gyfundrefnol, ac, yn ystod y 1950au, fe ymunodd â'r Crynwyr yn eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau. 'Roedd Waldo yn berson dwys ac ystyriol ac fe achosodd cyflwr y byd a'i gyd-ddyn gyfnodau o bruddglwyf difrifol iddo yn ystod ei fywyd. Cyhoeddodd Waldo ei unig gyfrol o gerddi, Dail Pren, ym 1956.

Places

Legal status

Functions, occupations and activities

Mandates/sources of authority

Internal structures/genealogy

General context

Relationships area

Access points area

Subject access points

Place access points

Occupations

Control area

Authority record identifier

no 99061367

Institution identifier

Rules and/or conventions used

aacr2

Status

Level of detail

Dates of creation, revision and deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

lcsh

Maintenance notes

  • Clipboard

  • Export

  • EAC

Related subjects

Related places