Dangos 57999 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Capel Boduan (Boduan, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Moduan, plwyf Boduan, Sir Gaernarfon. Ym 1999 unwyd Eglwys Boduan â Chapel Moreia, Morfa Nefyn.

Dechreuodd yr achos yn yr ardal yn Nhŷ Newydd yn y 1800au a chofrestrwyd y tŷ hwn fel addoldy ar gyfer ymneilltuwyr ym 1812. Ychydig ar ôl hyn adeiladwyd ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul wrth Dan-y-graig, a gofrestrwyd ym 1819. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth Nefyn yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Capel Bwlchgwynt (Tregaron, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1774, a'i alw ar ôl y cae y'i codwyd arno sef 'Llain Bwlch y Gwynt', ym mhlwyf Caron-is-clawdd, Sir Aberteifi. Helaethwyd yr adeilad hwn ym 1809, ond ym 1833 codwyd yr ail gapel ar y safle. Ychwanegwyd oriel at y capel hwn fel rhan o'r gwaith adnewyddu ym 1865.

Ffurfiwyd Cymdeithas Eglwysig yn yr ardal yn Nhanyrallt ym 1744, a symudodd y gynulleidfa yn gyntaf i Benlan ym 1758, wrth y dref, cyn iddynt godi'r capel cyntaf ym Mwlchgwynt. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Caron-Llanbedr yn Henaduriaeth De Aberteifi.

Capel Ebeneser (Borth-y-Gest, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos yng nghapel Ebeneser (a elwir hefyd yn gapel Borth), yn Borth-y-Gest, plwyf Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon yn 1881. Cyn hyn cynhaliwyd Ysgol Sul a chyfarfod gweddi mewn adeilad a alwyd yn 'Llofft y Sied'. Yn 1874 adeiladwyd capel yng ngwaelod Mary St. a dechreuwyd addoli yno ym mis Hydref. Gan fod yr achos mor llewyrchus, adeiladwyd capel mwy o faint yn 1880 a gostiodd fil o bunnoedd. Galwyd y Parch. Griffith Parry yn fugail yno yn 1889, ac ef a fu'n weinidog yno tan ei farwolaeth yn 1937. Unwyd dwy eglwys y Borth a Morfa Bychan yn un ofalaeth yn 1893. Mae Capel Borth-y-Gest yn Nosbarth Tremadog, Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Capel Ebeneser (Tumble, Wales)

  • Corporate body

Dechreuodd yr achos yn y Tymbl ym 1892, wedi i berchnogion y gwaith glo lleol gynnig tŷ, sef rhif 74, 'High Street', yn rhad ac am ddim i gynnal gwasanaethau crefyddol ynddo. Gyda'r brwdfrydedd yn tyfu o ran yr achos, penderfynwyd cael 'capel haiarn', a chafwyd tir yn rhan isaf 'High Street', Y Tymbl, gan yr Arglwydd Crawford ar brydles o 999 mlynedd. Yr oedd digon o le i adeiladu festri a fyddai'n dal oddeutu 200 i eistedd.

Cynyddodd yr eglwys yn gyflym rhwng y blynyddoedd 1898 a 1901, ac oherwydd hynny dechreuwyd siarad am adeiladu capel. Symudwyd y festri yn gorfforol yn nes i lawr, a phrynwyd hanner cyfer o dir i fod yn fynwent i'r eglwys gan y Parch. Richard Lloyd, Ficer Troedrhiw-yr-aur. Gorffennwyd y gwaith adeiladu ym 1900, ond ni agorwyd tan Tachwedd 1902.

Bu Tom Nefyn Williams yn weinidog ar y Capel yn ystod y 1920au. Sefydlwyd Capel M.C. Saesneg o'r enw St David's (Forward Movement) yn Y Tymbl ym 1907, gan adeiladu Neuadd gyfleus wrth i'r achos gynyddu. Bu'r ddau gapel dros rhai cyfnodau yn rhannu gweinidog, y Mans a chostau eraill. Caewyd Capel Ebenezer, Y Tymbl, ym 1996. Yr oedd y Capel yn rhan o Ddosbarth Llanddarog, yn Henaduriaeth De Myrddin.

Capel Ebenezer (Llandudno, Wales).

  • Corporate body

Mae'r gyfrol yn rhannol berthyn i Gapel Ebenezer, Lloyd Street, Llandudno. Yma gychwynwyd yr achos yn Llandudno. Adeiladwyd y capel yn 1814 ac yno bu'r achos hyd 1861 pan godwyd Eglwys Seilo. Lleolwyd y gyfrol ymhlith cofnodion Seilo.

Capel Elim (Llanddeiniol, Ceredigion, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym 1832 gydag eisteddleoedd ar gyfer 213 i addoli. Ailadeiladwyd y capel ym 1899 a bu ysgol Sul arbennig o lewyrchus yno. 'Achubwyd' llawer yn yr ardal yn ystod diwygiad Evan Roberts ym 1904-1905. Gwnaethpwyd llawer iawn o waith atgyweirio drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Mae drysau'r capel yn dal ar agor hyd heddiw.

Capel Ffosyffin (Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos ar fferm Tynyporth ym mhlwyf Henfynyw ym 1765. Adeiladwyd y capel cyntaf o gwmpas 1780. Codwyd adeilad newydd ar dir a roddwyd ar brydles gan stâd Mynachdy ym 1831. Prynwyd y tir ym 1879 gan y capel oddi wrth Alban Gwynne, Mynachty. Datgorfforwyd y capel ym 1997.

Capel Ffynhonnau (Llannefydd, Wales)

  • Corporate body

Codwyd y capel cyntaf ym 1795. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1826 ac yna codwyd yr adeilad presennol ym 1861. Decheuwyd yr achos gydag Ysgol Sul a gynhaliwyd yn fferm Ffynhonnau cyn symud i un o'r adeiladau allanol. Ym 1976 ffurfwyd gofalaeth newydd trwy ymuno Ffynhonnau, Cefn Berain a Llanefydd gyda'r Fron a'r Brwcws, Dinbych. Yna, yn dilyn adrefnu pellach, daeth Ffynhonnau yn rhan o ofalaeth Llansannan. Y mae'r achos bellach wedi dod i ben.

Canlyniadau 201 i 220 o 57999