Showing 672 results

Authority record
Corporate body

Capel y Rhos (Ruthin, Denbighshire, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Stryt y Rhos ym 1789. Bu Thomas Jones Dinbych, y Parch. John Jones, mab Edward Jones, Maes y Plwm, a Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) yn gysylltiedig â'r capel yn eu tro. Tyfodd wyth o achosion yr ardal o'r eglwys hon. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ynddo ym 1891 pan symudwyd i gapel newydd yn y dref a elwid Y Tabernacl. Ar ôl hyn bu'r capel yn ganolfan ar gyfer yr Ysgol Sul a gweithgareddau eraill hyd 1944.

Capel-Y-Ton (Tonyrefail, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y Capel cyntaf tua 1793. Erbyn 1836 roedd yr adeilad wedi dechrau adfeilio ac o ganlyniad fe godwyd yr ail Gapel yn y flwyddyn honno. Yn 1843, prynwyd darn o dir yn ymyl y Capel i godi Tŷ Capel, ac yn 1857 fe adeiladwyd Tŷ Ysgol. Fe agorwyd y Capel presennol, sef y trydydd adeilad, ym mis Medi 1864. Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd 2008.

Results 141 to 160 of 672