Showing 672 results

Authority record
Corporate body

Llan and Welsh Church Press Company.

  • Corporate body

Ymgorfforwyd Llan and Welsh Church Press Company Limited (Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig Gymreig Cyf) ar 13 Mehefin 1923. Ni newidiwyd enw cofrestredig y cwmni, ond defnyddiwyd yr enw Cymraeg gan fwyaf yn yr ohebiaeth. Cyhoeddai deunydd ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru. T. I. Ellis oedd ysgrifennydd Comisiwn Cyhoeddiadau'r Eglwys yng Nghymru, 1949-1951, a Chwmni'r Llan. Griffith Jones, Caernarfon, oedd trysorydd y cwmni, 1947-1953. Diddymwyd y cwmni yn 1987.

BBC Wales

  • nr 95042808
  • Corporate body
  • 1923-

Sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (sydd yn fwy adnabyddus fel y BBC), gyda'i chanolfan yn Broadcasting House, Portland Square, Llundain, trwy Siarter Frenhinol yn 1927, gydag awdurdod i ddarparu gwybodaeth, i addysgu ac i ddiddanu ei chynulleidfa ar draws nifer fawr o feysydd yn cynnwys materion cyfoes, y celfyddydau a diwylliant, addysg, crefydd a chwaraeon. Derbyniodd ei rhagflaenydd, y Cwmni Darlledu Prydeinig, ei drwydded i ddarlledu yn 1923, a dechreuodd y gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru yr un flwyddyn pan agorwyd gorsaf radio yng Nghaerdydd, gan ddarparu rhaglenni yn y Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd Rhanbarth Cymru y BBC ei thonfedd arbennig ei hun ar gyfer darllediadau sain ym 1937, a rhoddwyd tonfedd arall ar wahân iddi ym 1964 ar gyfer darllediadau teledol; adnabyddir y Rhanbarth Cymreig yn BBC Wales ers hynny. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu gyntaf ar y teledu yn 1953, a darlledir darpariaeth ddyddiol ers 1957; mae'r sianel Gymraeg yn cael ei hadnabod fel BBC Cymru. Bu'r gorsafoedd radio Saesneg a Chymraeg (Radio Wales a Radio Cymru) yn unedau ar wahân ers 1977. Erbyn hyn, adnabyddir y BBC yng Nghymru yn ei chyfanrwydd - yn cynnwys BBC Wales, BBC Cymru, Radio Wales a Radio Cymru - fel BBC Cymru Wales hefyd.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

  • Corporate body

Cyfeirir at yr Eisteddfod Genedlaethol fel ‘prif ŵyl ddiwylliannol y Cymry’ yn y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1880 ac yn 1890 sefydlwyd Rheolau’r Gymdeithas. Cytunodd Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1922 i roi cartref i’r cyfansoddiadau a beirniadaethau a gynigiwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 1937 ffurfiwyd Cyngor yr Eisteddfod drwy uno Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn 1952 disodlwyd y Gymdeithas gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddwyd i gynnal eisteddfod bob blwyddyn ac eithrio 1914 a 1940 (Eisteddfod Radio). Cyflwynwyd cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 1937, Tlws y Ddrama yn 1961 (daeth i ben yn 1993), Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1978 a Thlws y Cerddor yn 1990. Bellach mae’r Orsedd hefyd yn rhan o seremoni’r Fedal Ryddiaith.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

  • Corporate body

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 i hybu defnydd y Gymraeg. Fe'i trefnir yn gelloedd lleol. Sefydlwyd celloedd yng Nghaerdydd ac ym Mlaenau Morgannwg yn 1964, ac mae'r celloedd yma dal yn weithredol o dan Ranbarth Morgannwg Gwent.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • n 93030027
  • Corporate body
  • 1979-

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil sy'n cynnal prosiectau cydweithredol ar hanes, iaith, a llên Cymru, a gwledydd Celtaidd eraill. Roedd Coleg Prifysgol Cymru wedi cydnabod Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ers 1971, sef yr adrannau Cymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Yn 1976, lansiodd Athrawon yr Ysgol apêl er cof am y llenor Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, ac i ddathlu’r ysgolheigion ac Athrawon Astudiaethau Celtaidd eraill a ddysgodd yn Aberystwyth, sef (o’r Adran Gymraeg) Timothy Lewis, Thomas Jones, Garfield Hughes, a J.R.F. Piette; ac (o Adran Hanes Cymru) E.A. Lewis, T. Jones-Pierce, David Williams, ac W. Ogwen Williams. Bwriad yr Apêl oedd codi arian er mwyn sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, gyda'i adeilad ei hun a chysylltiad agos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yr Apêl yn llwyddiannus, ac agorodd y Ganolfan yn swyddogol yn 1979 yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, gyda'r Athro J.E. Caerwyn Williams fel y Cyfarwyddwr Mygedol gyntaf. Yn 1983 fe wnaeth Coleg Prifysgol Cymru gais llwyddiannus i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion am arian i gyflogi tîm o chwe staff swyddogol yn y Ganolfan, ac yn 1985 apwyntiwyd ei chyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Yr Athro R. Geraint Gruffydd. Yn 1988, fe wnaeth y Ganolfan gais llwyddiannus pellach i’r Pwyllgor Grantiau i adeiladu adeilad pwrpasol i gartrefi’r Ganolfan ochr yn ochr ag Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Agorodd yr adeilad newydd yn Aberystwyth, ar bwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn 1993, a chymerodd Yr Athro Geraint H. Jenkins drosodd fel Cyfarwyddwr yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth y Geiriadur o dan gyfarwyddiaeth y Ganolfan yn 2007. Ar ôl ymddeoliad Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 2008 apwyntiwyd Yr Athro Dafydd Johnston fel Cyfarwyddwr y Ganolfan tan 2021, pan benododd y Ganolfan ei chyfarwyddwr presennol, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Plaid Cymru

  • n 50075658
  • Corporate body
  • 1925-

Ffurfiwyd Plaid Cymru ar 5 Awst 1925 mewn cyfarfod ym Mhwllheli. Ei nod ar y cychwyn oedd hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Erbyn y 1930au yr oedd y blaid yn mabwysiadu agenda gwleidyddol ehangach gyda pholisïau economaidd a chyda'r bwriad o sicrhau newid cyfansoddiadol, a ddisgrifiwyd i gychwyn fel 'statws dominiwn'. Ymladdodd y blaid ei hetholiad gyntaf yn 1929, pan enillodd Lewis Valentine 609 o bleidleisiau yn sir Gaernarfon. Wrth i gefnogaeth i'r Blaid gynyddu, cyflwynwyd mwy o ymgeiswyr a dechreuodd ennill seddi ar gynghorau lleol. Gwynfor Evans oedd AS cyntaf Plaid Cymru, trwy ennill isetholiad Caerfyrddin yn 1966. Yn 1970 ymladdodd y blaid pob sedd yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol, gan ennill dros 175,000 o bleidleisiau. Yn 1974, enillodd y blaid dwy sedd, Caernarfon a Meirionnydd. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2001 yr oedd ganddi bedair sedd. Dioddefodd ymgyrch datganoli y blaid ergyd dirfawr yn dilyn ei threchu yn Refferendwm 1979. Er hynny, agorodd Refferendwm 1997 y ffordd i Gynulliad Cymru. Enillodd Plaid Cymru 17 o'r 60 sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999, i'w gwneud yr ail grŵp fwyaf yn y Cynulliad. Hefyd yn 1999, enillodd Plaid Cymru dwy o'r pum sedd yn yr Etholiadau Ewropeaidd. Trefnir y blaid yn lleol yn ganghennau a phwyllgorau a elwir yn rhanbarthau, sydd yn cyfateb i etholaethau San Steffan neu ffiniau llywodraeth leol, a ffurfir o gynrychiolwyr o'r canghennau. Mae'r strwythur cenedlaethol yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol, y Cyngor Cenedlaethol, a ffurfir o gynrychiolwyr y canghennau a'r rhanbarthau, a Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol, sydd yn rheoli cyllid a gweinyddiaeth y blaid. Cyflogir chwe aelod o staff, yn cynnwys ei phrif weithredwr, yn swyddfa genedlaethol Plaid Cymru yng Nghaerdydd,. Mae wyth swyddfa gyflogedig arall ar hyd a lled Cymru ynghyd â swyddfeydd etholaethol. Llywydd cyntaf Plaid Cymru oedd Lewis Valentine, a olynwyd gan Saunders Lewis, 1926-1939, J.E. Daniel, 1939-1945,Gwynfor Evans,1945-1981, Dafydd Wigley, 1981-1984 a 1991-2000, Dafydd Elis Thomas, 1984-1991, Ieuan Wyn Jones, 2000-2003 a Dafydd Iwan ers 2003. J. E. Jones (1905-1970) oedd yr ysgrifennydd cyffredinol a threfnydd, 1930-1962, ac ymunodd Elwyn Roberts ag ef ar ôl Yr Ail Ryfel Byd. Teitl swyddogol y blaid (ers 1999) yw is Plaid Cymru - The Party of Wales.

Results 1 to 20 of 672