Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Lolfa (Firm)

  • Corporate body

Sefydlwyd tŷ cyhoeddi Y Lolfa yn 1967 gan Robat Gruffudd er mwyn cyhoeddi gweithiau gwleidyddol, masweddus a phobolgaidd yn Gymraeg. Sefydlwyd y cwmni yn dilyn tŵf yn ymwybyddiaeth wleidyddol pobl ifanc Cymru, gan weithio gyda nifer o weithredwyr gwleidyddol newydd. Ehangodd y cwmni i gynnwys mathau eraill o weithiau yn cynnwys llyfrau dysgu Cymraeg, cyfeirlyfrau twristaidd, cerddoriaeth, llenyddiaeth gyfoes a llyfrau Cymraeg gwreiddiol i blant.

Sefydlwyd y cwmni yn wreiddiol yn hen adeilad yr 'Emporium' yn Nhal-y-bont, gan gymryd ei enw o'r cylchgrawn poblogaidd a dychanol LOL. Wrth i'r cwmni ehangu bu rhaid symud adeiladau o fewn Tal-y-bont, Aberystwyth, a phrynwyd hen adeilad yr heddlu yno gan ehangu hwnnw nifer o weithiau. Yn ogystal tyfodd y Lolfa o ran staff ac yn 2000 roedd yn cyflogi deunaw o bobl. Bu'n gweithio yn glos gyda Chyngor Llyfrau Cymru gan ddibynnu yn helaeth ar y grantiau gan ddefnyddio cyfleusterau'r Cyngor Llyfrau ar gyfer dosbarthu. Y Lolfa oedd y wasg gyntaf yng Nghymru i ddefnyddio'r dechnoleg offset-litho a roddodd olwg ffres ac unigryw iddi.

Llan and Welsh Church Press Company.

  • Corporate body

Ymgorfforwyd Llan and Welsh Church Press Company Limited (Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig Gymreig Cyf) ar 13 Mehefin 1923. Ni newidiwyd enw cofrestredig y cwmni, ond defnyddiwyd yr enw Cymraeg gan fwyaf yn yr ohebiaeth. Cyhoeddai deunydd ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru. T. I. Ellis oedd ysgrifennydd Comisiwn Cyhoeddiadau'r Eglwys yng Nghymru, 1949-1951, a Chwmni'r Llan. Griffith Jones, Caernarfon, oedd trysorydd y cwmni, 1947-1953. Diddymwyd y cwmni yn 1987.

Canlyniadau 181 i 200 o 11925