Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Undeb Dirwestol Dyffryn Taf.

  • Corporate body

Sefydlwyd Undeb Dirwestol Dyffryn Taf yn Llanfyrnach, sir Benfro, yn ystod Diwygiad Anghydffurfiol 1905, gan gynnal gŵyl ddirwestol flynyddol (Y Gymanfa Ddirwestol) a weinyddwyd gan Bwyllgor yr Ŵyl. Parhaodd i weithredu tan 1949.

Undeb Cymru Fydd.

  • Corporate body

Sefydlwyd Undeb Cymru Fydd yn 1941 fel carfan bwyso i sicrhau parhad diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg. Cychwynnodd dan yr enw Pwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru, a alwyd hefyd Y Gymdeithas er Diogelu Cymru, a ffurfiwyd yn dilyn cynhadledd genedlaethol o gyrff Cymreig er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru yn ystod y Rhyfel. Protestiodd yn aflwyddiannus yn erbyn meddiannu tir preifat ar Fynydd Epynt, sir Frycheiniog, gan y Fyddin, a dechreuodd gylchlythyr, Cofion Cymru, 1941-1946, ar gyfer Cymry yn y lluoedd arfog. Yn 1941 unwyd y Pwyllgor gydag Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig i ffurfio Undeb Cymru Fydd. Yn ystod y 1940au, lobiodd Undeb Cymru Fydd y Llywodraeth ar addysg Gymraeg ac ar feddiant gorfodol tiroedd yng Nghymru. Ffurfiwyd Cymdeithas Lyfrau yn 1943; mabwysiadodd hon y gwaith o gyhoeddi'r cylchgrawn addysgol Yr Athro, 1951-[c. 1970], a chyhoeddi calendrau poblogaidd. Penodwyd Pwyllgor ar y cyd rhwng Undeb Cymru Fydd a'r Eglwysi i fynd i'r afael â dadleoliad y gweithwyr ffatri yn sgil gwasanaeth cenedlaethol y boblogaeth sifil yn ystod y rhyfel. Bu'r Undeb yn ymgyrchu dros ysgolion Cymraeg, sefydlu Pwyllgor Addysg, a thros welliant yn y ddarpariaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg yn y cyfryngau. Yn 1950, trefnwyd cynhadledd a ysgogodd Ymgyrch Senedd i Gymru, a arweiniodd at gyflwyno deiseb yn cynnwys 250,000 o enwau i'r Ysgrifennydd Gwladol, Yn 1956, sefydlwyd Pwyllgor y Merched, ynghyd â chylchlythyr, Llythyr Ceridwen, 1956-[c. 1967]. Dilynwyd hyn gan gyfnod o farweidd-dra, gyda llawer o weithgareddau'r Undeb yn cael eu cymryd drosodd gan sefydliadau eraill. Ym Medi 1965, cafodd ei ail-drefnu ac fe'i gofrestrwyd fel elusen addysgiadol, yn hyrwyddo addysg Gymraeg i oedolion. Ataliodd pob gweithgaredd ym Mawrth 1970. Yr oedd trefniadaeth Undeb Cymru Fydd yn cynnwys Cyngor a Phwyllgor Gwaith, a phwyllgorau yn mynd i'r afael â phynciau penodol (addysg, radio, llyfrau, ac Eglwysi Cymru). At lefel lleol, etifeddodd 13 cangen gan Bwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru. Cynhaliai'r mudiad Gynhadledd Flynyddol, fel arfer ym Mehefin neu Orffennaf. Ar ôl 1967, roedd yna baneli arbenigol yn ymdrin â phynciau'n ymwneud â merched, addysg, a'r teledu. Ysgrifennydd a phrif ysgogwr y mudiad o 1941 i 1967 oedd T. I. Ellis (1899-1970), mab T. E. Ellis (1859-1899), aelod blaenllaw o fudiad Cymru Fydd yn yr 1880au-1890au. Gweithiodd Tom Jones fel trefnydd llawn amser, 1944-1949, fel y gwnaeth Gwilym Tudur, [1966]-[1968]. Gorosoedd Yr Athro dranc y mudiad, gan i Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ei gymryd drosodd ym Medi 1970. O 1965 ymlaen roedd Ymddiriedolaeth Undeb Cymru Fydd, a dderbyniai geisiadau am gymorth ariannol ar gael; fe'i ddiddymwyd yn 2000.

Theatr Garthewin.

  • Corporate body

Sefydlwyd Theatr Fach Garthewin gan R. O. F. Wynne, Garthewin, Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych, yn 1937, pan addasodd ysgubor ar ei ystâd yn theatr. Daeth yn un o'r theatrau bach mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Yn 1947 ffurfiodd Morris Jones (bu farw c. 1986) gwmni 'Chwaraewyr Garthewin'. Perfformiwyd drama Saunders Lewis, Blodeuwedd, ganddynt yn y theatr yn 1948. Ysgrifennodd Saunders Lewis sawl ddrama ar gyfer y Theatr yn cynnwys Siwan a berfformiwyd yno am y tro cyntaf yn 1954. Llwyfannwyd nifer o ddramâu Huw Lloyd Edwards yno am y tro cyntaf hefyd. Caewyd Theatr Garthewin yn 1969, ond parhaodd Chwaraewyr Garthewin, dan gyfarwyddyd Morris Jones i berfformio dramâu a chynnal gwyliau mewn mannau eraill tan tua 1980. Mae'n ymddangos bod Chwaraewyr Garthewin yn dal i fodoli tan tua 1990.

Canlyniadau 61 i 80 o 11925