Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Rhieni Dros Addysg Gymraeg (Organization)

  • Corporate body

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn gymdeithas a adnabyddid cyn 1983 fel Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg. Mae'n gymdeithas sydd yn cynrychioli rhieni drwy Gymru gyfan. Mae'r grŵp yn cynnwys Cymry Cymraeg a rhai di-Gymraeg fel ei gilydd. Eu prif safbwynt yw bod dwyieithrwydd yn un o'r rhoddion gorau y gellir eu cyflwyno i blentyn. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn argyhoeddedig y bydd y gallu i siarad Cymraeg yn helpu plant i fagu hyder ynddynt eu hunain ac yn eu diwylliant. Nod cyffredinol y grŵp yw hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog ac ymgyrchu i wella gwasanaethau ar gyfer y nifer cynyddol o blant sydd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg.

  • Corporate body

Sefydlwyd Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg yn 1987 gan Gyd Bwyllgor Addysg Cymru i ddatblygu a chyd-gysylltu addysg yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob sector, megis mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd, ysgolion cyfun, addysg uwch ac addysg i oedolion.

Prosiect Addysg Ddwyieithog y Cyngor Ysgolion.

  • Corporate body

Sefydlwyd Prosiect Addysg Ddwyieithog y Cyngor Ysgolion yn 1968 er mwyn galluogi plant uniaith Saesneg i gyrraedd safon uchel o lithrigrwydd yn y Gymraeg erbyn diwedd eu cyfnod addysg gynradd.

Canlyniadau 101 i 120 o 11925