Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Neuadd Rhydypennau.

  • Corporate body

Neuadd bentref yn Bow Street ger Aberystwyth yw Neuadd Rhydypennau. Dyddiad y cofnodion cyntaf sy'n perthyn i'r neuadd yw 1928. Mae cofnodion y pwyllgor yn awgrymu fod rhywfaint o waith adeiladu wedi ei wneud yn 1938-39 a lansiwyd apêl ychwanegol yn 1952.

Nazareth (Church : Pentre, Wales)

  • Corporate body

Cychwynnwyd y Capel gan aelodau o Jerusalem, Ton Pentre, Ystrad Rhondda, yn 1875. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol i Gapel Nazareth ar 14 Gorffennaf 1878. Sefydlwyd yr Ysgol Sul gan ddwy Eglwys sef Jerusalem, Ton Pentre, a Bethlehem, Treorci. Bu William Mabon Abraham (1842-1922), aelod seneddol a llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru, yn flaenor yn y Capel. Dymchwelwyd y capel cyn 1997.

Canlyniadau 141 i 160 o 11925