Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Nazareth (Church : Aberdare, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Eglwys Nazareth, Aberdâr, yn 1860. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn 1964 pan unwyd Nazareth ag Eglwys Bethania, Aberdâr.

Mynydd y Fflint (Church : Flint Mountain, Wales)

  • Corporate body

Credid mai gŵr o'r enw Dafydd Jones ddechreuodd yr achos ym Mynydd y Fflint ym 1801 ac ef a gychwynnodd yr Ysgol Sul yn ei gartref, Waen Isaf. Rhoddwyd tir i'r achos gan fonheddwr lleol, Edward Lewis, Bryn Edwyn, ac agorwyd y capel gan John Elias rhywbryd rhwng 1824 ac 1826. Ymestynnwyd ac atgyweiriwyd y capel ym 1859 ac adnewyddwyd yr adeilad ymhellach ym 1882.

Mudiad Ysgolion Meithrin.

  • Corporate body

Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Ysgolion Meithrin a Chylchoedd Chwarae Cymraeg, mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971, gyda'r diben o hyrwyddo, cynnal ac ehangu'r ddarpariaeth o gylchoedd meithrin a chylchoedd chwarae gwirfoddol yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru, fel bod pob plentyn dan oed ysgol yng Nghymru yn medru derbyn addysg feithrin a datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg. Lleolwyd pencadlys y mudiad yng Nghaerdydd i gychwyn (yn Aberystwyth erbyn hyn) ond y mae'r pwyslais ar gylchoedd chwarae lleol. Cofrestrir y grwpiau hyn, a elwir yn Gylchoedd Meithrin, yn elusennau annibynnol, a rheolir pob un gan bwyllgor o rieni a defnyddwyr eraill, sydd yn gyfrifol am fabwysiadu a gweinyddu polisïau, cyflogi staff, cyhoeddusrwydd a chodi arian. Trefnir y pwyllgorau ar lefel rhanbarth, gyda chefnogaeth rhwydwaith cenedlaethol o swyddogion datblygu. Cynyddodd nifer y Cylchoedd Meithrin o 70 yn 1971 i 574 yn 2003, a gall rhieni di-Gymraeg chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg mewn nifer o Gylchoedd Ti a Fi.

Moriah C.M. Chapel, Ynyshir.

  • Corporate body

Sefydlwyd Eglwys Moriah, Ynyshir, Morgannwg, yn 1881. Codwyd adeilad yn 1909. Roedd yr Eglwys yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth Rhondda Fach).

Moriah (Church : Miskin, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd Eglwys Moriah, Miscyn, Morgannwg, yn 1902. Adeiladwyd ac agorwyd yr Eglwys yng Ngorffennaf 1904, flwyddyn wedi cwblhau'r festri. Caewyd yr Eglwys yn 1949. Trosglwyddwyd yr aelodau i Hermon, Penrhiwceibr, neu i Fethlehem, Aberpennar.

Moriah (Church : Llanbedr, Merioneth, Wales).

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos yn Moriah, Llanbedr ym 1833 ac ymhelaethwyd yr adeilad yn sylweddol ym 1869. O hynny ymlaen cafodd y capel ei adnabod fel 'Y Capel Newydd'.

Morfa (Church : Abergele, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd ac agorwyd Capel y Morfa yn 1866, ond roedd cynulleidfa o Fethodistiaid Calfinaidd wedi bodoli yn y cylch ers troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Buont yng Nghapel Penbrynllwyni o 1826 hyd 1864, pryd y tynnwyd y capel i lawr. Bu'r gynulleidfa'n cwrdd yn nhŷ 'Y Sun' am ddwy flynedd cyn i Gapel y Morfa gael ei adeiladu. Unwyd gofalaeth Capel y Morfa â Rhuddlan rhwng 1924 ac 1933, ac eto rhwng 1952 ac 1961. Bu o dan yr un ofalaeth ag Eglwys Warren Road, Y Rhyl, 1947-1950. Mae'r capel yn Nosbarth Rhuddlan, Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.

Canlyniadau 161 i 180 o 11925