Showing 1864 results

Authority record
Person

Williams, Richard Ellis, 1862-1926.

  • Person

Yr oedd y Parch. Richard Ellis Williams (1862-1926), o Ben-y-ffridd, Llanuwchllyn, sir Feirionnydd, yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Gweithiodd yng ngorsaf rheilffordd Dolgellau, sir Feirionnydd, cyn symud i Fanceinion, swydd Caerhirfryn, ac yna i Goleg y Bedyddwyr yn Llangollen, sir Ddinbych. Bu'n weinidog ar Gapel Penuel. Cwmafan, sir Fynwy, 1886-1889, gweinidog yn Llundain, 1890-1904, ac ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin, 1904-1926. Roedd ganddo ddiddordeb byw yn hanes ei enwad ac am ugain mlynedd olaf ei fywyd bu'n Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru; sefydlodd y Gymdeithas Wobr Goffa Richard Ellis Williams yn 1947, mewn ymgynghoriad â'i fab R. A. Ellis Williams.

Williams, Rhodri.

  • Person

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad cenedlaethol, a sefydlwyd yn 1962 i hybu defnydd o'r Gymraeg trwy lobïo a phrotestio. Bu Rhodri Williams o Ferthyr Tudful, Morgannwg, newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu, yn aelod blaenllaw o'r gymdeithas yn y 1970au, yn gwasanaethu ar y Senedd ac yn Gadeirydd, 1974-1980. Yn ddiweddarach bu'n gwasanaethu ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg, 1996-2004. Yn 2004 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ofcom Cymru, rheolydd y diwydiant darlledu.

Williams, R. Dewi (Robert Dewi), 1870-1955

  • Person

Yr oedd y Parch. Robert Dewi Williams (1870-1955), Rhuddlan, sir y Fflint, yn weinidog gyda'r Presbyteriaid, yn brifathro a llenor. Cafodd ei eni ym Mhandytudur, sir Ddinbych, a mynychodd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n weinidog Cesarea, Llandwrog, a Jerusalem, Penmaen-mawr, y ddau yn sir Caernarfon, 1898-1917. Aeth wedyn yn brifathro Ysgol Clynnog, 1917-1929, a Choleg Clwyd, Y Rhyl,1929-1939. Aeth i Ruddlan, sir y Fflint i ymddeol yn 1939. Yr oedd yn awdur storïau byrion, a gynhwyswyd yn y gyfrol Clawdd Terfyn, straeon a darluniadau (Conwy,1912) a Dyddiau Mawr Mebyd (LLundain,1973, casgliad o erthyglau a luniwyd ar gyfer Y Drysorfa. Priododd Helena Jones Davies yn 1908, a bu farw 25 Ionawr 1955.

Results 41 to 60 of 1864