Dangos 2969 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Williams, D. J. (David James), 1870-1951.

  • Person

Bu David James Williams (1870-1951) o Gaerffili, Morgannwg, yn gweithio yn y lofa cyn mynd yn ddisgybl i Ysgol Pengam. Yn 1886 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri, sir Gaerfyrddin, ac yna i Goleg Caerwrangon, Rhydychen, Lloegr. Bu'n athro yn Wolverhampton, Lloegr, cyn cael swydd prifathro Ysgol Sir Bethesda, Bethesda, sir Gaernarfon. Roedd yn flaenor yng Nghapel yr Annibynwyr ym Methesda. Bu'n gadeirydd Coleg Bala-Bangor, a lluniodd hanes y coleg, 'Hanes Coleg Bala-Bangor', a geiriadur bywgraffiadol o'r staff, a rhestri o'r myfyrwyr.

Williams, Dai, 1899-1971

  • Person

Dai Williams (1899-1971) o Dregaron, Ceredigion, digrifwr, cerddor a darllenwr, oedd arweinydd y grŵp cerddorol poblogaidd Adar Tregaron, a ffurfiwyd yn 1935 gan ei gyfaill Idwal Jones (1895-1937), Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, ac a fu'n cynnal cyngherddau tan y 1950au.

Canlyniadau 2681 i 2700 o 2969