Dangos 2962 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Williams, R. Dewi (Robert Dewi), 1870-1955

  • Person

Yr oedd y Parch. Robert Dewi Williams (1870-1955), Rhuddlan, sir y Fflint, yn weinidog gyda'r Presbyteriaid, yn brifathro a llenor. Cafodd ei eni ym Mhandytudur, sir Ddinbych, a mynychodd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n weinidog Cesarea, Llandwrog, a Jerusalem, Penmaen-mawr, y ddau yn sir Caernarfon, 1898-1917. Aeth wedyn yn brifathro Ysgol Clynnog, 1917-1929, a Choleg Clwyd, Y Rhyl,1929-1939. Aeth i Ruddlan, sir y Fflint i ymddeol yn 1939. Yr oedd yn awdur storïau byrion, a gynhwyswyd yn y gyfrol Clawdd Terfyn, straeon a darluniadau (Conwy,1912) a Dyddiau Mawr Mebyd (LLundain,1973, casgliad o erthyglau a luniwyd ar gyfer Y Drysorfa. Priododd Helena Jones Davies yn 1908, a bu farw 25 Ionawr 1955.

Williams, Rhodri.

  • Person

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad cenedlaethol, a sefydlwyd yn 1962 i hybu defnydd o'r Gymraeg trwy lobïo a phrotestio. Bu Rhodri Williams o Ferthyr Tudful, Morgannwg, newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu, yn aelod blaenllaw o'r gymdeithas yn y 1970au, yn gwasanaethu ar y Senedd ac yn Gadeirydd, 1974-1980. Yn ddiweddarach bu'n gwasanaethu ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg, 1996-2004. Yn 2004 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ofcom Cymru, rheolydd y diwydiant darlledu.

Canlyniadau 2781 i 2800 o 2962