Showing 2969 results

Authority record

Simon, Cassie, 1898-1989

  • Person

Roedd Cassie Simon (1898-1989) o Lanwrda, sir Gaerfyrddin, yn gyd-sylfaenydd, hyfforddwraig a chyfeilyddes Côr Plant Cwmdwr.

Selwood, Nansi

  • nr 97041183
  • Person

Yr oedd Nansi Selwood yn athrawes, ffermwraig, hanesydd lleol ac awdures nifer o nofelau hanesyddol. Fe’i ganwyd yn Annie Roderick Williams ar 8 Tachwedd 1921 yn Fferm Trebannog Isa, Penderyn, Rhigos, ac wedyn symudodd y teulu i Hirwaun. Bu’n astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd a bu’n athrawes Gymraeg a Hanes yn ysgolion uwchradd Cathays, Caerdydd, a Phwllheli. Priododd Jack Selwood yn 1948. Cyfieithiwyd ei nofel Brychan dir (1987) i’r Saesneg gan ei gŵr Jack, The land of Brychan, yn 1994, a’r nofel i blant Dan Faner Dafydd Gam (1991) ganddo i Beneath the banner of Dafydd Gam (1992). Dyfarnwyd iddi Wobr Griffith John Williams 1987 am ei nofel Brychan dir. Lluniodd gyfrol am hanes Cwm Cynon sef A history of the villages of Hirwaun and Rhigos yn 1997. Dysgodd ddarllen braille yn ei hwythdegau. Bu Nansi Selwood farw ar 18 Chwefror 2017 mewn cartref gofal yn Nhrecynon, Aberdâr.

Seilo (Church : Llandudno, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel cyntaf ar y safle presennol yn 1861 ac fe'i alwyd yn Siloh. Ychwanegwyd oriel yn 1874, a chodwyd Ysgoldy a Thŷ Capel yn 1884.

Results 481 to 500 of 2969