Showing 2969 results

Authority record

Davies, T. Eirug (Thomas Eirug), 1892-1951

  • no2007005926

Gweinidog, bardd a golygydd oedd Thomas Eirug Davies a anwyd ar 23 Chwefror 1892 yng Ngwernogle, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol y Tremle, Pencader, cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Bangor gan raddio mewn athroniaeth yn 1916 a diwinyddiaeth yn 1919 yng Ngholeg Bala-Bangor. Dyfarnwydd iddo MA yn 1931 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Fe’i ordeiniwyd yn weinidog yng Nghwmllynfell am saith mlynedd, 1919-1926, ac yn Eglwys Soar, Llanbedr Pont Steffan, ac Eglwys Bethel, Parc-y-rhos, 1926-1951. Priododd Jennie Thomas yn 1921. Ganwyd iddynt wyth o blant.

Bu’n olygydd Y Dysgedydd, 1943-1951. Yr oedd yn gystadleuydd brwd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ennill ei wobr gyntaf am rieingerdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri yn 1920 a’r goron yn Aberafan yn 1932 a Chastell Nedd yn 1934. Enillodd wobr o £100 Syr John Edward Lloyd am ei draethawd ar Gwilym Hiraethog yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a MA Prifysgol Cymru yn 1931. Bu’n feirniaid y goron bedair o weithiau yn eisteddfodau 1936, 1945, 1948 a 1950. Bu farw 27 Medi 1951 yn ei gartref yn Llanbedr Pont Steffan.

Davies, T. Glynne (Thomas Glynne)

Yr oedd T. Glynne Davies yn fardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr. Ganwyd Thomas Glynne Davies ar 12 Ionawr 1926 yn Llanrwst. Bu’n gweithio fel gohebydd i’r Cambrian News, Y Cymro a’r South Wales Evening Post. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 am ei bryddest ‘Adfeilion’. Yn 1957 ymunodd â’r BBC fel gohebydd newyddion yng Nghaerdydd ac yn 1967 derbyniodd Wobr Personoliaeth Radio’r Flwyddyn. Bu farw 10 Ebrill 1988.

Davies, T. J. (Thomas James)

  • n 85096017
  • Person
  • 1919-2007

Roedd y Parch. Dr Thomas James Davies (1919-2007) yn weinidog ac yn awdur. Fe'i ganed yn Llanfihangel-y-Creuddyn ar 12 Rhagfyr 1919, ac ar ôl cyfnod fel ffermwr aeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn ddiweddarach yr Annibynwyr. Ymhlith ei waith cyhoeddedig mae Dilyn David Livingstone (Llandybie, 1974), Nabod Bro a Brodorion (Abertawe, 1975), Ieuan Gwyllt (Llandysul, 1977), Pencawna (Abertawe, 1979), Paul Robeson (Abertawe, 1981) a Iechyd Da (Llandysul, 1983); ysgrifennai hefyd y golofn 'O Ben Dinas' yn y Cambrian News. Wedi iddo symyd i Gaerdydd daeth yn ysgrifennydd cyffredinol y Cyngor Unedig ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ac yn weinidog ar Eglwys Annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth. By farw yng Nghaerdydd ar 30 Mehefin 2007.

Results 561 to 580 of 2969