Showing 2973 results

Authority record

Roberts, Kate, 1891-1985

  • Person

Ganwyd Kate Roberts (1891-1985), un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Cymru, yn Rhosgadfan, Llanwnda, pentref yn ardal y chwareli yn sir Gaernarfon. Yr oedd yn nofelydd, yn awdur storiâu byrion ac yn newyddiadurwraig lenyddol. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu'n astudio o dan Syr John Morris-Jones a Syr Ifor Williams. Wedi hynny bu'n athrawes Gymraeg yn Ystalyfera ac Aberdâr, ac yn 1928 priododd Morris T. Williams a phrynodd y ddau Wasg Gee, cyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn 1946, parhaodd i redeg y busnes ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd arall. Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau a storiâu byrion o 1925 hyd 1937 ac o 1949 hyd 1981. Yr oedd hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Genedlaethol Cymru a chyfrannodd yn rheolaidd i bapur newydd misol y blaid, Y Ddraig Goch. Mae nifer o'i gweithiau yn adlewyrchu cymdeithas y chwarel y magwyd Kate Roberts ynddi. Mae rhai o'i gweithiau yn ymwneud â gwragedd neu hen bobl yn byw ar eu pennau eu hunain. Yr oedd hefyd yn awdures llyfrau ar gyfer ac am blant. Yr oedd themâu ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys pynciau llenyddol, gwleidyddol a theuluol.

Roberts, John, 1910-1984

  • n 78039489
  • Person

Yr oedd John Roberts (1910-1984), Llanfwrog, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd. Fe'i ganed yn Nhŷ'r Cae bach, Llanfwrog, Llanfaethlu, sir Fôn. Addysgwyd ef yn ysgol Caergybi a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1931-1937. Bu'n weinidog Carneddi, Bethesda, sir Gaernarfon, [1937]-1944, Capel y Garth, Porthmadog, sir Gaernarfon, 1945-1957, Capel Tegid, Bala, sir Feirionnydd, 1957-1962, a Moriah, Caernarfon, tan ei ymddeoliad yn 1975. Dychwelodd i Lan-yr-Afon. Priododd Jessie, nyrs, yn 1938 a chawsant tair merch. Roedd yn enwog am ei bregethu, a chyfansoddodd farddoniaeth ac emynau (gyda George Peleg Williams). Enillodd dwy gadair am farddoniaeth yn eisteddfod Dyffryn Ogwen, ac am ryddiaith yn 1949 a 1973 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd llawer o'i gerddi cynnar yn y gyfrol Cloch y Bwi (Dinbych, Gwasg Gee, 1958).

Roberts, Hugh, 1832-1907.

  • Person

Yr oedd Hugh Roberts, 'Yr Hen Idris' (1832-1907), yn chwarelwr, hanesydd lleol a hynafiaethydd. Fe'i ganwyd ar 1 Ionawr 1832 ym Mryncrug, sir Feirionnydd. Symudodd gyda'i deulu i Abergynolwyn, sir Feirionnydd, yn 1842. Bu'n gweithio yn chwarel lechi Bryneglwys, sir Feirionnydd, am dros 30 mlynedd, er iddo weithio yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg pan oedd yn ifanc. Daeth yn adnabyddus yn lleol fel hanesydd a hynafiaethydd ac am ei ddaliadau gwleidyddol, gan iddo chwarae rhan flaenllaw yn lleol yn ymgyrch Rhyddfrydwyr sir Feirionnydd yn etholiad 1868. Bu farw yn 1907.

Results 581 to 600 of 2973