Showing 2969 results

Authority record

Dorcas

  • Corporate body

Dr David John de Lloyd (1883-1948).

Ganwyd Dr David John de Lloyd (1883-1948), y cyfansoddwr a'r gŵr academaidd, yn Sgiwen, Morgannwg; ymsefydlodd y teulu yn Aberystwyth, Ceredigion, yn ddiweddarach. Oherwydd ei allu cerddorol aethpwyd ag ef ar deithiau darlithio gan J. S. Curwen, 1894-1896. Mynychodd ysgol y sir yn Aberystwyth, 1896-1899, graddiodd mewn Hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1903, ac ef oedd y cyntaf i dderbyn gradd B.Mus. gan y coleg yn 1905. Yn 1906-1907, mynychodd Academi Gerdd Leipzig yn yr Almaen, a derbyniodd ei ddoethuriaeth yn Nulyn yn 1915. Ar ôl bod yn athro yn Woolwich, Llundain, 1908-1911, a Llanelli, 1911-1919, dychwelodd i Aberystwyth i ddarlithio yn yr adran gerdd, a chael swydd Athro Cerdd yn 1926. Roedd ganddo ddiddordeb yn alawon gwerin Cymru, ac arbrofodd gyda rhoi'r gynghanedd ar gân; bu hefyd yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymhlith ei weithiau niferus fel cyfansoddwr a threfnydd ceir y cantata Gwlad Fy Nhadau (Llanelli, 1914), yr operâu Gwenllian (Aberystwyth,1925) a Tir na n'Og (Llundain,1932), a Forty Welsh Traditional Tunes (Llundain, [1929]). Bu farw 20 Awst 1948.

Results 601 to 620 of 2969