Showing 2973 results

Authority record

Roberts, Elwyn, 1904-1988.

  • Person

Elwyn Roberts, (1904-1988) o Beniarth, Bodorgan, sir Fôn, oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru hyd ei ymddeoliad, a pharhaodd yn drysorydd anrhydeddus. Roedd yn Drefnydd ymgyrch Senedd i Gymru rhwng 1953 a 1956. Daeth yn ysgrifennydd-trefnydd Eisteddfodau Bae Colwyn yn 1947 a Llanrwst yn 1951. Ef oedd trefnydd Plaid Cymru yng Ngogledd Cymru, a hefyd ei swyddog ariannol. Roberts hefyd a sefydlodd cangen fwyaf Plaid Cymru, ym Mlaenau Ffestiniog.

Roberts, Eigra Lewis

  • n 86801219

Mae Eigra Lewis Roberts yn nofelwraig a dramodydd. Fe’i ganwyd ar 7 Awst 1939 ym Mlaenau Ffestiniog. Graddiodd o Goleg y Brifysgol Bangor. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968, y tlws drama yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974 a’r Goron yn Eistedddfod Genedlaethol Abertawe 2006 am gasgliad o gerddi am Sylvia Plath.

Addaswyd dwy o nofelau Elena Puw Morgan gan Eigra Lewis Roberts ar gyfer y teledu. Yn 1996 enillodd wobr Bafta am y sgriptiwr gorau am Y Wisg Sidan. Cafodd ei hanrhydeddu gyda gradd MA am ei chyfraniad i lenyddiaeth Cymru. Cyhoeddwyd ei hunangofiant Eigra: Hogan Fach o'r Blaena gan Wasg y Bwthyn yn 2021.

Roberts, D. J. (David John).

  • Person

Gwnaeth y Parch. D. J. Roberts, Gweinidog yr Annibynwyr, Aberteifi, ymchwil ar hanes ei gapel, Capel Mair, ac ysgrifennodd fywgraffiad o weinidog arall yr Annibynwyr, Dr Peter Price (1864-1940), ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1949. Roedd hefyd yn aelod o'r pwyllgor gwaith a drefnodd Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.

Richards, W. Leslie (William Leslie), 1916-1989.

  • Person

Graddiodd y bardd a'r nofelydd William Leslie Richards (1916-1989)o Gapel Isaac ger Llandeilo, yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n athro ysgol i gychwyn cyn dod yn Ddirprwy Brifathro Ysgol Gyfun Llandeilo o 1975 hyd 1981. Yr oedd yn awdur sawl nofel, yn eu plith Yr Etifeddion, 1956. Ynghyd â D. H. Culpitt cyhoeddodd gyfrol ar D. J. Williams, Y Cawr o Rydcymerau yn 1970.

Results 621 to 640 of 2973