Showing 2973 results

Authority record

Eglwys Engedi (Ffestiniog, Wales)

  • Corporate body

Rhwng 1874 a 1881 cafwyd twf yn y boblogaeth yn ardal Ffestiniog oherwydd llwyddiant y diwydiant llechi. Yr oedd Capel Peniel gan yr enwad yn barod ond yr oedd angen lle o addoliad arall i gwrdd ag anghenion y bobl. Agorwyd Eglwys Engedi ar 15 Mai 1881 a'i sefydlu yn eglwys ar 23 Mai 1881. Daeth 160 o aelodau Peniel yn aelodau yn Engedi. Roedd lle i 500 eistedd yn yr addoldy. Yn 1898 codwyd tŷ i'r gweinidog ac yn 1904 cafwyd trydan yn y capel. Yn 1905 cynhaliwyd Sasiwn yno. Unwyd Eglwysi Peniel ac Engedi yn un ofalaeth yn 1920. Atgyweiriwyd Engedi yn 1925 a derbyniwyd gwahoddiad i gyd-addoli yn Eglwys Peniel yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bu'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd a chredir iddo gau yn 1948 gan nad yw'n cael ei gynnwys yn Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru. Dyddiadur am 1949.

Eglwys Gynulleidfaol Severn Road (Cardiff, Wales).

  • Corporate body

Sefydlwyd Eglwys Gynulleidfaol Gymraeg Severn Road, Canton, Caerdydd, yn y flwyddyn 1867. Caeodd ym 1979 ac fe'i droswyd erbyn hyn yn fosg Billal. Mae'r ohebiaeth yn bennaf ynglŷn â chau y capel a gwerthu'r adeilad, 1980.

Eglwys Libanus (Borth, Wales)

  • Corporate body

Credir i'r achos Methodistaidd yn y Borth gychwyn yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn 1803 neu 1806. Arferid galw capel Libanus yn 'Capel y morwyr' a chredir iddo ar un adeg fod â naws mwy Seisnig yn perthyn iddo nag a berthynai i gapel Soar yn yr un pentref. Yn 1969, ymunodd Soar â Libanus ac ail-enwyd Libanus yn Gerlan.

Eglwys Llanrug (Llanrug, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1798. Yna yn 1822 adeiladwyd ail gapel. Cynyddodd poblogaeth ardal Llanrug, ac yn sgîl diwygiad 1839-1840 cynyddodd aelodaeth y capel. Penderfynwyd felly adeiladu trydydd capel. Agorwyd hwn yn 1842. Erbyn 1868 roedd pedwerydd capel wedi ei godi.

Roedd gan yr eglwys ran hefyd mewn adeiladu'r ysgoldy a adeiladwyd yn 1863. Roedd yn rhaid benthyg swm sylweddol o arian i'w hadeiladu ac fe gymerodd capel Llanrug gyfrifoldeb am y benthyciad. Wedi pasio'r ddeddf i ffurfio byrddau ysgol yn 1870, trosglwyddwyd yr ysgol i'r Bwrdd yn 1872. O hynny ymlaen adnabuwyd hi fel Ysgol Bryn Eryr.

Eglwys (MC) Bethel (Dyserth, Wales)

  • Corporate body

Credir fod seiliau'r Eglwys fel cynulleidfa yn hytrach nag adeilad yn mynd yn ôl i 1808. Adeiladwyd Bethel neu Capel Ucha, Dyserth, yn 1822, ar ddarn o dir oedd yn perthyn i'r Parch. Thomas Jones. Rhaid oedd ehangu'r addoldy yn 1849 gan fod y gynulleidfa wedi cynyddu i'r fath raddau. Roedd angen mwy o dir a chyflwynwyd cais i William Shipley Conwy, Neuadd Bodrhyddan, a rhoddodd y tir am ddim. Yn 1869 cafodd y capel ei ailadeiladu i gynllun Richard Owen, Lerpwl, gyda lle i 380 eistedd. Yn 1890 dathlwyd talu'r taliad olaf.

Eglwys Moriah (Morfa Nefyn, Wales)

  • Corporate body

Yn 1825 neu 1826 adeiladwyd ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul a sefydlwyd ym Morfa Nefyn yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tyfodd yr Ysgol Sul i'r fath raddau nes penderfynwyd sefydlu eglwys yn y pentref, ac adeiladwyd capel yno yn 1853 neu 1854. Adeiladwyd y capel presennol yn 1882 gyferbyn â safle'r hen adeilad a chodwyd 'Capel Pren' i addoli ynddo tra adeiladwyd y capel newydd.

Eglwys Nasareth (Morfa Bychan, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd Capel Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog ym mhlwyf Ynyscynhaearn, yn y flwyddyn 1856. Ailadeiladwyd y Capel ym 1888.

Results 681 to 700 of 2973