Showing 2970 results

Authority record

Rees, Mati, 1902-1989

  • Person

Yr oedd Mati Rees (1902-1989), a hanai o Rydaman, sir Gaerfyrddin, yn un o bum plentyn peiriannydd mwyngloddio. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1924. Tra roedd hi'n athrawes yn Ysgol Ramadeg y Sir, Porth, cwblhaodd draethawd MA ar ieithyddiaeth, astudiaeth arloesol a osododd sail i'w diddordeb llwyr mewn dulliau dysgu iaith a barodd ar hyd ei hoes. Arweiniodd y diddordeb hwn at gyhoeddi cyfres o werslyfrau i ysgolion a sgriptiau'r gyfres deledu boblogaidd 'Croeso Christine'. Ar ôl blynyddoedd lawer fel athrawes yn Ysgol Ramadeg Llanelli, cafodd ei hapwyntio'n brif ddarlithydd yn 1966. Chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd diwylliannol a chrefyddol Cymru, ac roedd hi'n hynod o amlwg mewn materion yn ymwneud ag Undeb Bedyddwyr Cymru, Urdd Ieuenctid y Bedyddwyr, yr Orsedd ac UCAC. Yr oedd yn ddarlledwraig cyson, yn golofnydd ac yn awdur toreithiog. Treuliodd flynyddoedd olaf ei bywyd yn Aberystwyth. Bu farw yn 1989.

Williams, Siân, 1884-1965

  • Person

Yr oedd Siân Williams (1884-1965) yn wraig i D. J. Williams, Abergwaun.

Ganwyd Jane Evans yn Cwmbach, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, ar 4 Awst 1884, yn ferch i'r Parchedig Dan Evans a'i wraig Mary. Fe'i bedyddiwyd gan Michael D. Jones a symudodd y teulu i Aberafan pan oedd hi'n chwech mlwydd oed. Bu'n gweithio fel athrawes yn Nhredegar a Llanwrtyd ac yna fel athrawes deithiol yng Nghaerdydd. Yna fe'i penodwyd yn brifathrawes ar ysgol newydd Beulah ger Castellnewydd Emlyn. Yn Rhagfyr 1925 priododd D. J. Williams. Fe fu'n ysgrifennydd cangen y Peace Pledge Union yn Abergwaun yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bu farw Siân Williams ar 3 Mehefin 1965 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Roberts, Gomer Morgan

  • Person

Ganwyd y Parch. Ddr Gomer Morgan Roberts (1904-1993) yn Llandybïe, sir Gaerfyrddin ar 3 Ionawr 1904. Yn dair ar ddeg oed, dechreuodd weithio fel glöwr cyn ennill ysgoloriaeth y WEA i Goleg Fircroft, rhan o Golegau Selly Oak, Birmingham, pan oedd yn bedair ar bymtheg. Aeth ymlaen i Goleg Trefeca yn ddiweddarach. Yn 1930 cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gan weinidogaethu yng Nghlydach, Cwm Tawe, 1930-1939, Pont-rhyd-y-fen, 1939-1958, ac wedyn yn Llandudoch ger Aberteifi nes iddo ymddeol yn 1968. Symudodd wedyn i Landybïe ger Rhydaman. Yn 1969 cafodd ei ethol yn Llywydd Cyfundeb De Cymru and yn 1973 yn Llywydd y Cynulliad Cyffredinol. Derbyniodd nifer fawr o anrhydeddau gan yr eglwys, ac yn 1982 cyhoeddodd ei gydweithwyr yn y Gymdeithas Hanes gasgliad o ysgrifau er clod iddo dan y teitl Gwanwyn Duw. Mae hwn yn cynnwys llyfryddiaeth lawn o'i weithiau cyhoeddedig niferus. Gwnaeth Gomer M. Roberts gyfraniad pwysig i astudiaeth ar ddiwygiad Methodistaidd y deunawfed ganrif yng Nghymru, yn cynnwys cyhoeddi dwy gyfrol o fywgraffiad William Williams, Pantycelyn. Yn ogystal bu'n gwasanaethu am bron deng mlynedd ar hugain fel golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd ac yn gyfrifol am y gyfres Trevecka Records a gyhoeddwyd gan yr un gymdeithas yn y 1950au a'r 1960au. At ei gilydd, roedd yn awdur tua deugain o lyfrau a nifer enfawr o erthyglau mewn cylchgronau. Bu farw yng Nglanaman ar 15 Mawrth 1993.

Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg.

  • Corporate body

Sefydlwyd Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg yn 1987 gan Gyd Bwyllgor Addysg Cymru i ddatblygu a chyd-gysylltu addysg yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob sector, megis mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd, ysgolion cyfun, addysg uwch ac addysg i oedolion.

Ap Nathan, 1876-1960

  • Person

Roedd y Parch. James Ednyfed Rhys (Ap Nathan, 1876-1960) yn fab i Jonathan Rees (Nathan Wyn). Roedd Ap Nathan yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn llenor ac yn fardd. Bu'n weinidog yn Aberafan a Nantymoel tan 1940. Byddai'n cystadlu'n gyson ac yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyfrannai at gyfnodolion a chyhoeddodd Cymeriadau Cefn Gwlad (Caerdydd, 1948).

Anthropos, 1853?-1944.

  • Person

Roedd 'Anthropos', y Parch. Robert David Rowland ([1953]-1944), yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn fardd ac yn llenor. Cafodd ei fagu yn Nhyn-y-cefn, ger Corwen, sir Feirionnydd. Dechreuodd bregethu yn 1873 a chofrestru yng Ngholeg y Bala yn 1874. Tra'r oedd yn y Bala bu'n athro yn yr ysgol leol a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Y Blodeuglwm (Bala, 1878). Symudodd i Gaernarfon lle bu'n newyddiadurwr, gan weithio ar Yr Herald Gymraeg, Amseroedd ac Y Genedl Gymreig, y bu'n olygydd arni o 1881 i 1884. Ordeiniwyd ef yn 1887, a chael ei alw yn weinidog Capel Beulah yng Nghaernarfon yn 1890, lle yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1933. Parhaodd i ysgrifennu'n doreithiog, yn cyhoeddi cyfrolau o gasgliadau o gerddi, storiâu a thraethodau. Ymysg y pwysicaf ohonynt ceir Y Ffenestri Aur (Dinbych, 1907) a Y Pentref Gwyn (Wrecsam, 1909) lle rhydd atgofion am ei blentyndod. Bu hefyd yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1912 i 1932 ac ysgrifennai i Baner, 1904-1914, yr Herald ac amryw o gyfnodolion eraill. Bu farw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1944. Ymhlith ei gydnabod yr oedd Lewis William Lewis ('Llew Llwyfo', 1831-1901), bardd, newyddiadurwr, nofelydd a chanwr o Ben-sarn, sir Fôn, a weithiodd ar lawer o'r un cyfnodolion ag Anthropos.

Results 181 to 200 of 2970