Dangos 58009 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Owen, W. Berllanydd (William Berllanydd), 1899-1984.

  • Person

Yr oedd William Berllanydd Owen ('Berllanydd', 1899-1984) yn weinidog gyda'r Annibynwyr a bardd. Fe'i ganed yn Y Berllan, Darowen, sir Drefaldwyn, a chafodd ei addysg yn Narowen, yn Ysgol Ramadeg Cei Newydd, sir Aberteifi, a'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Bu'n weinidog ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin, ac yn ddiweddarach yn Hen Golwyn, sir Ddinbych. Yn fardd, enillodd wobrau am ei englynion a'i sonedau. Cyhoeddwyd ei waith mewn amrywiol gyfnodolion Cymraeg ac yn y gyfrol Awen Sir Ddinbych (Llandybïe,1964).

Canlyniadau 1981 i 2000 o 58009