Showing 2970 results

Authority record

Williams, E. J. (Evan John), d. 1993

  • Person

Ganwyd y Parch. Evan John Williams (marw 1993) yn Swyddffynnon, Ceredigion. Cafodd ei ordeinio yn Noddfa, Ynysybwl, yn 1929 a symudodd i Tabernacl, Maesteg, yn 1937. Gweithiodd ar ran y Gymdeithas Genhadol yn Llundain am chwe blynedd. Yn 1973 cafodd ei ordeinio yn Horeb Penrhyn-coch, Cwmsymlog a Goginan. Yr oedd ei wraig L. Eirlys Williams yn ferch i'r Parch. Henry Evans, Horeb, Penrhyn-coch. Gweithiodd hi i Undeb y Bedyddwyr am dros ddeugain mlynedd.

Williams, Elizabeth Jeane Roberts.

  • Person

Yr oedd y Parch. E. Roberts Williams (1883-1952) yn weinidog ym Mhatagonia a ymfudodd o Gymru yn 1930. Yr oedd yn weinidog ar chwech o eglwysi Dyffryn Camwy yn Yr Ariannin, a berthynai i Undeb Eglwysi Efengylaidd Camwy. Yr oedd hefyd yn llywodraethwr Ysgol Ganolradd Y Gaiman. Bu farw yn 1952. Addysgwyd ei ferch Elizabeth Jeane Roberts Williams yn Chubut, a mynychodd Goleg Cenedlaethol Trelew yn y 1940au.

Williams, Eunice Bryn, 1919-1991.

  • Person

Yr oedd Eunice Bryn Williams (m. 1991) yn gysylltiedig â gwaith Cymdeithas Alawon Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Williams, Evan Wyn, d. 1988

  • Person

Yr oedd y Parch. Evan Wyn Williams (m. 1988) yn weinidog Methodist yn Aberfan adeg trychineb Aberfan yn 1966.

Results 2701 to 2720 of 2970