Dangos 57887 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Capel Penmaen (Dolgellau, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd capel Salem, Dolgellau yn 1808. Yn 1877 sefydlwyd dwy eglwys allan ohoni, sef Bethel a'r Eglwys Saesneg a adeiladwyd yn y dref. Yna cychwynnwyd ysgol arall gan aelodau Salem yn Nhynygraig, tua thair milltir o'r dref. Symudwyd yr achos i bentref Penmaen a chodwyd ysgoldy yno ar dir a gafwyd gan Mrs Jones, Penmaenisaf.

Adeiladwyd capel Penmaen yn 1870 ar fin y ffordd fawr rhwng Llyn Penmaen ac Arthog. Unwyd Penmaen yn achos gydag eglwys Salem, ac yn 1899 fe'i corfforwyd hi'n eglwys. Roedd Eglwys Penmaen yn Nosbarth Dolgellau, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Am un cyfnod yr oedd y tair eglwys - Bethel, Penmaen a Salem yn un ofalaeth dan ofal un gweinidog, a'r eglwys Saesneg ar ei phen ei hun. Ond erbyn tua 1928 yr oedd y pedair eglwys wedi eu rhannu'n ddwy ofalaeth fugeiliol, sef Salem a'r Penmaen; Bethel a'r capel Saesneg. Caewyd y capel yn 1967.

Capel Pentyrch (Llanfair Caereinion, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd a sefydlwyd Capel Methodistiaid Calfinaidd Pentyrch, Four Crosses, Llanfair Caereinion, yn 1834. Gelwid y capel weithiau yn gapel y Gelli am ei fod wedi cael ei adeiladu ar dir y Gelli. Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Llanfair, Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf.

Capel Penuel (Ferndale, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Penuel, Ferndale, yn 1878, gydag estyniad yn 1904. Roedd y Capel yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth y Rhondda). Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ôl 2003.

Capel Pen-uwch (Penuwch, Wales).

  • Corporate body

Codwyd capel cyntaf Pen-uwch yn 1839 a'r ail gapel yn 1867. Ychwanegwyd oriel yn 1888. Ar 16 Mai 1962 cynhaliwyd dathliad agor y capel ar ôl ei adnewyddu. Y mae yn Nosbarth Aeron ac yn Henaduriaeth De Aberteifi ac fe'i rhestrir yn Y Blwyddiadur ar gyfer 2005.

Capel Salem, Cyffylliog

  • Corporate body
  • 1835-2023

Adeiladwyd Capel Cyffylliog (neu Gyffylliog/Y Gyffylliog), yn 1835 ac fe'i hail-adeiladwyd yn 1905. Cynhaliwyd yr oedfa olaf 23 Ebrill 2023.

Capel Saron, Wolverhampton

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos yn 1854. Adeiladwyd capel yn St George’s Parade yn 1860, ond erbyn 1893 roedd angen gwaith atgyweirio. Roedd galw am adeilad mwy o faint, a gan fod nifer o’r aelodau yn byw ochr arall y dref, fe werthwyd y capel tua 1907. Agorwyd capel newydd yn Bath Road yn 1908, a gaeodd yn 1966. Adeiladwyd capel yn St Mark’s Road yn 1968 a enwyd Saron. Bu'r achos yn rhan o Ddosbarth Birmingham yn Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf (Henaduriaeth Trefaldwyn yn ddiweddarach). Gweler Achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Wolverhampton. Canmlwyddiant 1854-1954 (Medi 1954).

Capel Seilo (Johnstown, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y Capel tua diwedd 1893 ar y ffordd o Riwabon i Wrecsam yn Johnstown, ym mhlwyf Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych, ac fe'i hagorwyd ym mis Chwefror y flwyddyn ddilynol. Ym 1898 adnewyddwyd yr adeilad oll y tu fewn a hefyd ychwanegwyd ysgoldy ac ystafell bwrpasol ar gyfer dosbarthiadau darllen ac yn y blaen.

Yn y cychwyn bu sefydlu'r achos yn gydweithrediad rhwng y Capel Mawr a'r Eglwys Saesneg, Hill Street, ac 'roedd gwasanaethau'r capel yn y ddwy iaith bob yn ail Sul yn ystod y blynyddoedd cynnar. Tua 1896 penderfynwyd sefydlu eglwys hollol Gymraeg yn y Capel, ac ymunodd aelodau o gapeli eraill megis y Capel Mawr, Hill Street a Phonciau (Bethel). Ym 1999 penderfynodd aelodau'r Capel i ddwyn yr achos i ben ac yn y flwyddyn honno unodd yr Eglwys â'r Capel Mawr (Jerusalem). 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Rhos yn Henaduriaeth Dwyrain Dinbych.

Canlyniadau 261 i 280 o 57887